Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/513

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darparu ar gyfer yr anturiaeth hon ymlaen llaw; rhoddasid casgliad ar droed er's rhai blynyddau yn yr Ysgol Sul, fel yr oedd bron ddigon mewn llaw i dalu am y tir, yr hwn a brynwyd mewn arwerthfa gyhoeddus am y swm o £520.

Ar ol prynu y tir, symudwyd ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu y capel; cynhaliwyd llawer o gyfarfodydd i gyd—ymddiddan a chyd ymgynghori, a gwnaed y trefniadau canlynol;—Cynllunydd y capel, Mr. Richard Owen, Liverpool; adeiladydd, Mr. John Thomas, Dolgellau; arolygydd, Mr. Humphrey Jones, Dolgellau. Swm y contract a'r extras £1720. Cyfanswm yr addewidion tuag at y draul £802 10s. Oc. Cyfranodd amryw bersonau a arosasant yn Salem yn anrhydeddus tuagat adeiladu Bethel. Y flwyddyn flaenorol, hefyd, yr ymsefydlodd y Parch. R. Roberts yn y dref, a rhoddodd ef ei ddylanwad yn gryf o blaid adeiladu y capel hwn a'r capel Saesneg. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad y capel hwn Hydref 4ydd, 1877, pryd y pregethwyd yn Bethel a Salem gan y Parchin. Joseph Thomas, Carno, T. C. Edwards, D. D., Aberystwyth, a John Hnghes, D. D., Liverpool. Cynhaliwyd cyfarfod eglwysig hefyd, bore yr ail ddydd, yn Bethel, ac ymdrinwyd ynddo ar hanes Jacob yn Bethel, Gen. xxviii. 16—19. Hydref 11eg bu dau frawd dros y Cyfarfod Misol yn sefydlu yr eglwys yn rheolaidd, sef y Parchn. D. Jones, Garegddu, a J. Davies, Bontddu. Swyddogion yr eglwys ar ei sefydliad cyntaf oeddynt:— Gweinidog, y Parch. R. Roberts; Diaconiaid, Mri. R. O. Rees, J. Meyrick Jones, J. Williams, R. Mills. Cyfrif cyntaf yr eglwys, ar ddiwedd 1877, sef ymhen tri mis ar ol ei sefydliad: gwrandawyr 230; yr Ysgol Sabbothol 210; mewn cymundeb 94. Yn haf y flwyddyn 1880 derbyniodd yr eglwys ychwanegiad pwysig at y swyddogaeth, trwy ddyfodiad dau ddiacon o eglwysi eraill, sef Mr. Richard Williams, o Salem, a'r diweddar Mr. Evan Jones, o Lanelltyd. Gorphenaf 8fed, yr un flwyddyn, bu dan genad dros y Cyfarfod Misol yn cymeryd llais yr eglwys, pryd y galwyd y ddau i'r swyddogaeth yn eglwys Bethel, a