Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/524

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fachreth, Mai 25ain, 1817. Y modd y cadwyd y cyfarfod hwn; society nos Sadwrn gyda'r gangen eglwys yno, trwy fwrw golwg ar achos yr Ysgol Sabbothol yn eu plith, a pha beth oedd eu golygiadau a'u barn am yr ysgol, ynghyd â rhoddi anogaethau neillduol i'r eglwys i ymegnio o blaid yr achos, ac i bob un wneyd a allo, yn ol ei ddawn a'i allu, er ei llwyddo. Cynhaliwyd cyfarfod drachefn am naw o'r gloch boreu Sul, trwy adrodd rhan o'r gair, mawl, a gweddi; yna pregethu, a chyfarfod athrawon ar ol hyny. Ac am ddau o'r gloch, cyfarfod egwyddori; y mater dan sylw yn yr odfa hon oedd, "Am y Bod o Dduw." Felly dibenwyd y cyfarfod hwn yn y modd hyn. D.S. Penderfynwyd ar y pethau canlynol yn y Cyfarfod Athrawon:—

1. Fod cyfarfod i gael ei gadw bob dau fis yn gyfarfod cylchynol perthynol i Ysgolion Sabbothol ardaloedd Dolgellau.

2. Ei amser, y Sul olaf o bob dau fis,

3. Ei drefn :—(1) Ei fod i'w ddechreu nos Sadwrn, a bod i un neu ychwaneg a fyddo wedi cael eu galw i'w gynal dd'od yno i gadw society gyda'r gangen eglwys lle bo y cyfarfod, ac anogaeth i gyfeillion o leoedd eraill dd'od iddi, i'r diben o fod yn gynorthwy i'r gwaith. Mater y cyfarfod hwn ydyw, bwrw golwg ar Ysgol Sabbothol y lle, a gofyn am ymddygiadau y cyfeillion a'r cyfeillesau tuag at y rhan hon o waith yr Arglwydd, a'u barn am y gwaith, ynghyd a'u hanog i fod yn ffyddlon o'i blaid yn ol eu sefyllfa a'u dawn. (2) Bod yr ail odfa neu gynulliad i ddechreu am naw o'r gloch boren Sul. Mater y cynulliad hwn yw, gwrando ar adroddiad rhan neu ranau o'r Gair, canu mawl, gweddio, pregethu, a chyfarfod athrawon ar ol y bregeth, i fwrw golwg ar ysgolheigion y cylch yn gyffredinol, ac i dderbyn cyfrifon o nifer yr ysgolheigion a'r athrawon; eu graddau mewn dysgeidiaeth, a'u llafur yn dysgu'r Gair, &c. (3) Cynulliad am ddau o'r gloch, i wrando ar adroddiad rhanau o'r Gair, canu mawl, gweddio, ac