Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/526

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llefaru drosto ei hun. Wrth rheolau y cyfeirir atynt, y golygir rhyw 30 o ofyniadau y gelwid am danynt o bob ysgol ymhob Cyfarfod Ysgol, megis, nifer yr ysgolheigion, y llafur ymhob adran, pa ysgol yn y cylch a ddysgodd fwyaf, a pha berson unigol a ddysgodd fwyaf, &c. Arferid yn y dechreu anfon oddiwrth y Cyfarfod Ysgolion gyfarchiad o ddiolch- garwch at yr ysgol a fyddai wedi dysgu allan fwyaf o fewn y cylch, ac, hefyd, at y person unigol a fyddai wedi dysgu fwyaf. Llawer o fanylwch a gofalon o'r fath a welir yn eu trefniadau gyda gwaith yr ysgol yn y blynyddoedd cyntaf. Amlwg ydyw mai Lewis William oedd sylfaenydd y Cyfarfod Ysgolion. Richard Roberts oedd yr ysgrifenydd, ac yntau yn gynorthwy-ydd iddo.

o 1838 I 1859.

Ar ol y wybodaeth a gafwyd gan L. W. am sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion, yr hanes cyntaf a gawn am danynt wed'yn ydyw ymhen ugain mlynedd union. Gorphenaf laf, 1838, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanfachreth, yn hanes yr hwn y ceir y sylw, "Fod y Cyfarfodydd Daufisol wedi syrthio i ddirywiad a gwaeledd mawr ragor y gwelwyd hwynt." Yn yr un cyfarfod, penderfynwyd, "fod ysgrifenydd sefydlog i gael ei benodi i'r dosbarth, fel y gallo gofnodi mewn llyfr y pethau yr ymdrinir â hwynt." A'r penderfyniad nesaf ydyw, "i William Williams, Dolgellau, fod yn ysgrifenydd." Mr. Williams, Ivy House, oedd y gŵr hwn. Bu ef yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am saith mlynedd, yn eu dilyn yn gyson, ac yn ysgrifenu cofnodion manwl o honynt. Ychwanega hyn at glod yr hen foneddwr hybarch, yr hwn a ddaeth o hyny allan i lenwi cynifer o swyddi pwysig mewn gwahanol gylchoedd. Rhagfyr 13eg, 1844, darllenir yn llyfr y cofnodion, "Gan fod Mr. Williams yn rhoi ei swydd i fyny fel ysgrifenydd y Cyfarfod Daufisol, penderfynwyd fod R. O. Rees i gymeryd ei le." Y cyfnod hwn, un o flaenoriaid y cylch, fel rheol, a