Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/530

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pryd wedi darfod, y Sabbath yn cael ei gadw gyda manylwch a gofal, a darllen a dysgu y Beibl wedi dyfod yn hoffder. Allan o 243 a ychwanegasid at yr eglwysi yn y Dosbarth o ddechreu y flwyddyn hyd yr ymweliad, yr oedd 208 yn ddeiliaid yr Ysgol Sul, a dim ond 35 heb fod. Mor gynil," ebe Mr. Rees, "y bu Ysbryd yr Arglwydd o fyned allan o gylch yr Ysgol Sabbothol i alw rhai i'w eglwys." Darllenwyd yr adroddiad hwn mewn Cyfarfod Ysgolion a gynhaliwyd yn Nolgellau, Medi 18fed, 1859; ac yn y cyfarfod dilynol, Hydref 9fed, rhoddwyd cymaint o bwys arno, fel y penderfynwyd ar ymweliad arall i wasgu ei wersi at ystyriaeth yr ysgolion. Mr. Rees oedd un o'r rhai a benodwyd i fyned allan i'r ymweliad hwn hefyd, a rhoddwyd yn genadwri at yr ysgolion, "I droi rhyw gyfran o amser yr ysgol yn achlysurol i ymholi pa fodd y mae rhwng meddyliau yr ysgolheigion a chrefydd bersonol; i gynal cyfarfodydd athrawon i gydweddio yn achos yr ysgol," &c.

Mr. R. O. Rees, fel y gwelir, oedd bywyd yr ymweliadau hyn. Amgylchiad arall hefyd a gymerodd le ugain mlynedd yn ddiweddarach a ddengys angerddoldeb ei zel gyda'r Ysgol Sul. Ni byddai hanes y sefydliad yn y cylch yn gyflawn heb roddi adroddiad byr am hwn. Yn haf y flwyddyn 1879, penodwyd ef unwaith eto—ar gais amryw o'r ysgolion—i wneyd yr ymweliad blynyddol, a dewisodd yntau Mr. Richard Jones, o ysgol Sion, fel ei gydymaith. Ei brif nod yn yr ymweliad hwn oedd, "Anog i lafurio am wybodaeth a phrofiad helaethach o egwyddorion ac athrawiaethau sylfaenol Llyfr Duw." A chynygiodd Cysondeb y Pedair Efengyl yn wobr i bob un ymhob ysgol yn y Dosbarth a ddysgai allan yr oll o'r Hyfforddwr erbyn y Gymanfa Ysgolion ddilynol. Talodd ymweliad â phob ysgol, i geisio deffroi yr ysgolion i zel gyda'r gwaith o ddysgu allan. Nid anghofir gan y to presenol o ddeiliaid yr ysgolion am yr ymroddiad â pha un yr ymdaflodd i'r gwaith hwn. Y canlyniad oedd i 201 o ddeiliaid ysgolion y Dosbarth