Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/536

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enyddion yn ystod yr un cyfnod:—Mri. Joseph Roberts, Dolgellau; Humphrey Jones, Tanybryn, Dolgellau, yr hwn a fu yn y swydd am wyth neu naw mlynedd, ac a fu yn un o'r prif offerynau i wella y trefniadau; E. J. Evans (yn awr y Parch. E. J. Evans, Walton); David Thomas, Llanfachreth; Evan Roberts, Saron; William Williams, Swyddfa'r Goleuad, o 1876 i 1887. Y pregethwyr fel holwyddorwyr yn yr un cyfnod:— Parchn. D. Jones, yn awr o Garegddu; D. Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw; O. Roberts, Llanfachreth; J. Davies, Bontddu; H. Roberts, Silo; O. T. Williams; R. Roberts, Dolgellau. Y trysorydd o 1866 hyd 1887, Mr. Robert Roberts, Glanwnion. Y swyddogion presenol, a etholwyd yn nechreu 1888—Llywydd, Mr. W. O. Williams, Dolgellau; ysgrifenydd, Mr. R. C. Evans, Dolgellau; trysorydd, Mr. M. Jones, U.H., Plasucha; pregethwr, Parch. Richard Rowlands,

Llwyngwril.[1]

  1. Rhoddwyd enwau yr oll y cafwyd sicrwydd am danynt yn flaenorol i 1859; ond aeth amryw ar goll, am na chadwyd cofnodion rheolaidd.