Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylch Llwyngwril, ei ardal enedigol, yn y flwyddyn 1788:— "Byddai ambell odfa yn cael ei chynal y pryd hyny gan y Methodistiaid Calfinaidd, mewn lle a elwir Gwastadgoed, tŷ un Sion William. Ni byddai ond ychydig iawn yn dyfod i wrando, a'r pregethwyr a'r crefyddwyr oeddynt yn cael eu herlid yn fawr. Gelwid pregethwyr yn "au-broffwydi," a'r gymdeithas neillduol eglwysig yn "weddi dywyll." Cafodd Siôn William ei dafiu allan o'r tŷ, am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; ac efe a symudodd i le a elwir y Gors, a daeth pregethu yno hefyd. Ymysg y lliaws, yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu y pregethu newydd â'm holl egni. Un prydnhawn Sabbath, daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda y bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid am le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum i'r pentref y Sabbath hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwâg ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn, aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gŵr i'r drws, a dywedais wrtho, os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dy arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig."

Yr oedd John Ellis, o'r Abermaw, wedi dechreu pregethu er's tair blynedd cyn hyn, a lled sicr ydyw mai nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn pregethu yn Llwyngwril. Tro neillduol oedd hwn a goffeir gan Lewis Morris, a gallwn gasglu yn bur gryf fod pregethu yn achlysurol wedi bod yn Llwyngwril o leiaf flwyddyn neu ddwy yn gynt. Amser ei ddechreuad yno felly oedd tua 1786. Yn Awst, 1789, yr argyhoeddwyd Lewis