Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neillduaeth yn Nhowyn. Cawsai yr hanes gan lawer o hen bobl oeddynt yn fyw bum' mlynedd ar hugain yn ol, ac yr oedd wedi bod ei hun yn siarad â Lewis Morris, fel yr oedd pob linc yn y gadwen yn gyfan y pryd hwnw; heblaw hyny, yr oedd wedi cael llawer o'r hanesion o hen lawysgrif o eiddo ei daid. Trwy garedigrwydd Mr. Jones, cawsom y ffeithiau dyddorol a ganlyn:—

"Yr oedd gwr o'r enw Edward Williams, dilledydd, yn byw yn Porth Gwyn, Towyn, adnabyddus yn yr holl ardal fel un o'r rhai blaenaf yn yr Interludiau a chwareuid trwy y gymydogaeth y pryd hyny. Daeth galwad arno i fyned i Aberystwyth, i brynu brethyn galar-wisgoedd i deulu cyfrifol yn Aberdyfi. Wedi myned i'r dref, deallodd fod Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yno gan y Methodistiaid. Penderfynodd fyned yno er cael defnyddiau difyrwch yn yr Interludiau wedi dychwelyd adref. Dafydd Morris oedd yn pregethu ar y pryd, tad yr enwog Ebenezer Morris, Twrgwyn, yr un gwr ag a ddaliodd y cawr o Goedygweddill, yn Machynleth, ac heb fod yn neppell oddiwrth yr un amser. Dychwelodd Edward Williams o Aberystwyth yn ddyn newydd, a chafodd addewid am bregeth yn ei dŷ yn Nhowyn, ymhen ychydig amser wedi hyn.

"Wedi cyraedd gartref, yr oedd yr olwg arno yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd pan yn cychwyn i Aberystwyth—edrychai yn hynod bendrwm a phruddaidd. Dechreuodd losgi yr hen lyfrau oedd ganddo, yn nghanol rhegfeydd ei briod, a syndod ei gymydogion, oeddynt wedi cyrchu ato fel cynt i'w difyru.

"Bu am ychydig yn cadw ei dy i'r 'Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddynt gan neb ond ei hunan. Ond ymhen enyd, daeth gwr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Chwanegwyd atynt yn fuan wed'yn, Daniel ac Evan Jones, o'r Dyffryn Gwyn, amaethwyr parchus, o fewn pedair milldir i'r dref, sef o ardal Maethlon. 'Ymdrecha di,' ebe Francis Hugh wrth