Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edward William, 'gael cynghorwr, mi ofalaf finau am fwyd iddo fo a'i geffyl.' Erbyn hyn, yr oedd y fintai fach yn dechreu casglu nerth. Ond nid hir y bu cyn i ystorm ddychrynllyd gyfodi yn eu herbyn. Rhoddodd yr hen foneddwr o'r Ynysmaengwyn y gloch allan trwy'r dref, y byddai i bwy bynag o'i denantiaid a roddai waith i Edward William, gael ei droi o'i dŷ neu ei dyddyn, ar hyny o rybudd. Ond, er fod bron yr holl wlad yn eiddo i'r boneddwr, dywedai E. W. yn aml ei fod wedi cael llawer mwy o waith o hyny allan nag erioed, a'i fod trwy hyny wedi bod yn llawer mwy galluog nag o'r blaen i wneyd daioni gydag achos crefydd.

"Byddai y pedwar hyn yn fynych yn cyfarfod i gyd-weddio, weithiau yn nghysgod y dasau mawn, ar lân y môr (byddai mawn yn cael ei dori yn agos i'r traeth, a'i dasu ar ben y clawdd llanw), bryd arall yn y Dyffryn Gwyn, neu ynte mewn ty bychan o'r enw Hen Felin, mewn cwm cudd, o fewn pum' milldir i Dowyn, a thua milldir a haner o Aberdyfi. Ystyrid John Lewis, yr Hen Felin, yn ddyn duwiol iawn ganddynt. Byddent wrthi yn gweddio weithiau drwy'r nos, ac yn gwawrio dydd arnynt yn dychwelyd adref, eto nid oeddynt yn cwyno oherwydd blinder. Tebygol mai y cyfarfodydd hyn yn Nyffryn Gwyn fu dechreuad yr achos yn nghapel Maethlon, ac mai y fintai fach a gyfarfyddent yn yr Hen Felin oedd dechreuad achos y Trefnyddion Calfinaidd yn Aberdyfi. Bu yr achos yn y lle diweddaf, meddai yr hanesydd yn yr hen law-ysgrif (Edward Williams), am amser maith heb neb yn aelodau yno, ond ychydig wragedd. Yr oedd y Gymdeithasfa [Cyfarfod Misol] erbyn hyn wedi neillduo Edward Williams, Daniel ac Evan Jones yn flaenoriaid, ac ar ysgwyddau y rhai hyn y gorphwysai yr achos yn Aberdyfi, yn benaf.

"Yr oedd gŵr ieuanc, talentog, yn byw y pryd hwn gyda'i dad yn Pen-y-parc, ger Bryncrug, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r Ysgol o Lynlleifiad [Amwythig?] ac wedi ymwasgu at y fyddin fach yn Nhowyn. Cynhelid y society bob yn ail yn