Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un o'r ddau a enwir yn y drwydded hon ydoedd parson Llandderfel, yr hwn a ddywedai yn y llys, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." Ar ol hyn aeth yr ystorm fawr heibio. Nid oedd perygl i'r rhai oedd wedi cael y trwyddedau oddiwrth y gyfraith mwy, er nad oeddynt eto yn ddiberygl oddiwrth ddynion creulon. Y Sabbath cyntaf ar ol fy nyfod adref," ebe Lewis Morris, "aethum y boreu i Dowyn i bregethu. Erbyn myned yno yr oedd y milwyr ar yr heol, yr hyn na arferent fod ar y Sabbothau; a rhai o'm cyfeillion a'm cyngorasant i beidio cadw odfa, gan eu hofn, ond dywedais nad oedd wiw ildio bellach, ac nid oedd raid en harswydo, am fy mod tan gysgod amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr. Felly cadw yr odfa wnaed, a llonyddwch a gafwyd. Yr oedd yr erlidwyr bellach yn analluog i wneuthur niwed i ni." Nid yn unig yr oedd y pregethwr tan amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr, ond yr oedd y ty hefyd y pregethid ynddo, ac yr oedd y rhai a elent i mewn i'r tŷ i wrando, o tan amddiffyniad yr un gyfraith, fel na feiddiai squire y plwyf, na'i filwyr wneuthur niwed i neb o honynt. Tybed nad oedd yr ychydig grefyddwyr yn Nhowyn y boreu Sabbath hwnw yn teimlo yn debyg fel y teimlai yr Iuddewon, pan y daeth Petr o hyd nos i guro wrth dŷ Mair, mam Ioan, wedi dianc yn rhydd oddiwrth y pedwar pedwariaid o filwyr yn ngharchar Herod!

Tranoeth ystorm ydoedd. Wedi i'r dymestl fyned heibio, y gwyntoedd ostegu, a'r gwlawogydd beidio, y mae tawelwch yn dilyn, yr elfenau fel pe wedi blino yn ymladd, ac wedi myned oll i orphwyso a huno, a môr a thir wedi dyfod mor llonydd a llyn llefrith. Gellwch weled eich cysgod yn y llyn dŵr, a chlywed deilen rhedynen yn disgyn ar y llawr, gan faint y tawelwch sydd o'ch deutu. Eto i gyd, mae y dymestl wedi gadael ei hôl ar ddyn ac anifail, a natur drwyddi draw wedi ymddryllio, a bydd gwaith nid bychan i adgyweirio yn ol llaw. Felly y gwnaeth ystorm yr erledigaeth ruthr brawychus ar