Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crysau, ac er eu llafur, a'u lludded, a'u chŵys, gorfu iddynt roddi i fyny, a dychwelyd adref yn eu cywilydd. Yr oedd Griffith Owen yn daid i Mr. Griffith Pugh, Berthlwyd, blaenor yn bresenol gyda y Methodistiaid yn Bryncrug.

Effeithiodd yr erledigaeth hon er drwg ac er da. Megis y bu yr ymraniad rhwng Harries a Rowlands, ddeugain mlynedd yn flaenorol, yn gwmwl du dros Gymru, yn achos i laweroedd ollwng eu gafael o'u proffes, ac i grefydd mewn llawer ardal ddiflanu yn llwyr, yr un modd, fe ddrygodd y dymhest hon achos y Gwaredwr am ysbaid rhwng y Ddwy Afon, a bu yn waith rhai blynyddau i adgyweirio y rhuthr a wnaed. Yr un pryd, bu yn foddion i beri i'r ychydig ffyddloniaid gredu yn gryfach nag erioed fod yr Arglwydd o'u tu. Am Gorris yr ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn, a chofnodwyd yr hanes yn y flwyddyn 1840, tra yr oedd llygaid-dystion o'r amgylchiadau eto yn fyw.

"Wedi yr erledigaeth uchod, aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofnau; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell i bregethwr i'n plith, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr odfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny, deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."

Ond pa fodd yr ymdarawodd y rhai a ddirwywyd mor drwm? Pobl dlodion oeddynt oll, ac yr oedd 20p yn swm mawr iddynt hwy i'w dalu eu hunain, heblaw yr amser oeddynt wedi golli trwy ffoi o'u cartrefi. O ba le y cafodd y bobl druain arian i dalu y dirwyon? Yr hanes a adroddir gan eu teuluoedd a'u perthynasau ydyw fod y Gymdeithasfa wedi eu talu. Yr oedd y Cyfundeb yn cynorthwyo y gweiniaid y pryd hwnw; ac hwyrach yn helaethach nag yn awr. Er nad oedd dim rheolau wedi tynu allan, pa fodd i estyn cynorthwy, yr oedd cariad ac ewyllys da yn ddigon o gymhellion