Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fryd am ei gael, fel y gwerthwyd y cwbl mewn deuddydd. Synodd y boneddwr at hyn; ni feddyliasai fod angen y tlodion mor fawr. A chan gyfeirio at yr amgylchiad, efe a dorodd allan i lefaru, gan ddywedyd; "Welwch chwi, pe buasai y Methodistiaid wedi gwneyd rhywbeth, cawswn wybod y cwbl gan y clepgwn, ond ni fu wiw ganddynt ddweyd fod y fath eisiau ar y tlodion!" Y mae yn deilwng o sylw fod hiliogaeth y boneddwr hwn wedi darfod oll o'r wlad er's dros 10 mlynedd. Yr erledigaeth hon, hefyd, fu yn foddion i beri i'r pregethwyr,. a'r capelau, a'r tai gael eu trwyddedu ymhob man—yn y siroedd eraill yn gystal a'r sir hon, ac i'r Methodistiaid alw eu hunain yn Ymneillduwyr. Rhydd y dyfyniad canlynol olwg gyflawn. ar yr amgylchiadau: " Deallodd Mr. Charles, mewn ymddiddan â'r cyfreithiwr parchus hwn, pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dani oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C——t wedi troseddu y gyfraith ei hun, wrth ddirwyo pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai, gan na ranodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thlodion y plwyf yn ngwydd y dirwyedig. Cynygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gosbi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes O leiaf iddo gydymgynghori a'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith. "Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oedd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd. Mr. Charles, John Evans, ynghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebid hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynent,