Pedr yn awr a drôdd ei feddwl, gyda bywiogrwydd dihafal, at reoleiddiad mewnol ei ymerodraeth, yr hon a ddaeth yn raddol yn fath o greadigaeth newydd.
Y pryd hyn trôdd yr ymerawdwr ei sylw at ddiwygio dillad anghyfleus ei bobl. I wneyd hyn, dechreuodd trwy osod treth ar farfau hirion a pheisiau; a chrogid cynlluniau o gotiau clòs am y corph yn y lleoedd cyhoeddus. Ond y fath oedd eu hymlyniad wrth eu hen arferion, fel y cynyddodd ei gyllid, yn lle bod eu dillad yn newid. Y mae ei symudiad nesaf braidd yn ddigrifol. Gosododd deilwriaid ac eillwyr wrth bob un o byrth Moscow, dyledswydd pa rai oedd tori barfau pob dynion a ddelent i mewn, a thori eu peisiau oddiamgylch. Fel siampl o ymlyniad y bobl wrth eu hen arferion, adroddir yr hanesyn canlynol. Ar un achlysur cyfarfyddodd yr ymerawdwr â hen ddyn yn dyfod oddiwrth yr eilliwr, a dywedodd wrtho ei fod yn edrych fel dyn ieuangc ar ol cael tori ei farf; ar hyn rhoddodd yr hen ŵr ei law yn ei fynwes, a thynodd allan y farf a dorasid ymaith, gan hysbysu yr ymerawdwr y byddai iddo ei chadw i'r dyben iddi gael ei gosod yn ei arch, fel y byddai iddo ei dangos i St. Nicholas yn y byd arall !
Oddeutu yr amser yma dechreuodd yr ymerawdwr symud dechreuad y flwyddyn o'r dydd cyntaf o Fedi i'r dydd cyntaf o Ionawr—gorchwyliaeth a barodd dramgwydd mawr i'r bobl, y rhai a dýbient ei fod yn ymgymeryd â newid cwrs yr haul. Yn nesaf sefydlodd gymdeithasau er cefnogi cymundeb cymdeithasol rhwng y ddwy ystlen, fel y gallai pobl gael mantais i ffurfio priodasau cyfaddas. Cyn hyn yr oedd У gwragedd yn cael eu ceisio yn ol dull Asia—y briodasferch yn cael ei rhoddi ymaith neu ei gwerthu gan ei rhieni, heb gael ei gweled yn flaenorol gan y priodfab bwriadedig. A thra yr oedd y diwygiadau cymdeithasol a moesol hyn yn myned yn mlaen, yr oedd Pedr yn adeiladu llynges ar yr afon Don, yn cysylltu yr afon hono â'r Volga, ac yn cynllunio i ddwyn tiriogaeth arforawl oddiar genedl ryfelgar, ar ba un y bwriadai adeiladu prifddinas newydd-St. Petersburg.
Hyd yn hyn, Moscow oedd prifddinas Rwssia, yr hon, gan ei bod yn nghanol y tir, nid oedd yn gyfleus at fasnach forawl. Gyda golwg ar wneyd i fyny y diffyg, yma, penododd Pedr safle ei brif ddinas newydd ar aber yr afon Neva, yn gyfagos i Forgaingc Ffinland. Ond nid ei eiddo ef oedd y tir yn y fan hon; perthynai i Sweden. Ei amcan gan hyny oedd gafael mewn un neu ddwy o daleithiau, eu hychwanegu at Rwssia, ac yna dechreu adeiladu ei dref. I'r dyben o gyrhaedd ei amcan yn y peth hwn, yn y flwyddyn 1700, efe a ffurfiodd undeb gwladol gydag Augustus, brenin Poland, ac â brenin Denmark. Y tri phenadur hyn a ffurfiasant gynghrair yn erbyn Siarl XII., brenin Sweden, a phenderfynodd Pedr gymeryd oddiarno daleithiau Ingria a Carelia; dymunai Augustus adenill Esthonia a Livonia; ac ewyllysiai Denmark adgymeryd Holstein a Sleswick. Pedr a oresgynodd Ingria gyda 60,000 o filwyr; a chan ei fod yn awyddus i gael esgus dros ei weithrediadau, y goreu a allai gael oedd fod gormod o dâl wedi cael ei godi am ymborth ei lysgenadon tra yn pasio trwy y dalaeth hono ar eu ffordd i Holland; nid anghofiodd grybwyll hefyd iddo ef ei hun gael ei ddirmygu trwy wrthod iddo gael golwg ar amddiffynfeydd Riga!
Oddeutu diwedd mis Medi, Pedr a warchaeodd ar Narva, tref gaerog ar yr afon Narowa, yr un adeg ag yr oedd Siarl yn terfynu y rhyfel a Denmark. Wedi darfod hyny, daeth i waredu Narva, ond nid oedd ganddo ond 9000 o filwyr gydag ef. Pedr, wedi synu efallai fod y lle yn dal allan mor hir, ond heb amheuaeth na lwyddai yn y pen draw, a adawodd ei fyddin yn gwersyllu o flaen Narva, ac a aeth i gyfarfod byddin o agos i 30,000 o wŷr, y rhai yr anfonasai am danynt i'w gynorthwyo. Nid yw yn hawdd rhoddi rheswm paham y gwnaeth hyn; oblegyd yn ddiau yr oedd mwy o angen am yr ymerawdwr gyda'r brif fyddin, oddeutu 60,000 o wyr, o flaen Narva. Yn ei absenoldeb, ar y 19eg o Dachwedd, daeth Siarl i fyny i Narva, a chan gymeryd mantais ar ystorm ddychrynllyd o eira, yr hon' a gurai yn union i wynebau y Rwssiaid, syrthiodd arnynt, a chyda'i fyddin o 9000 a orchfygodd fyddin o agos i saith gwaith y nifer hwnw. Cymerwyd oddeutu 40,000 yn garcharorion ; ac o'r diwedd darganfyddwyd anghyfleustra y peisiau hirion, oblegyd rhwystrent i nifer mawr o honynt redeg ymaith! Ni fu erioed orthrechiad mor llwyr, er i'r ymerawdwr gymeryd y peth yn hynod dawel. "Gwn yn eithaf da," meddai,"y bydd gan y Swediaid fantais arnom am hir amser; ond bydd iddynt o'r diwedd ein ni i'w curo hwynt."
Ar yr achlysur o'r gorchfygiad hwn, cyfansoddodd yr offeiriaid weddi at Sant Nicholas, yr hon a offrymwyd i fyny yn gyhoeddus. Erfyniai am ei gymhorth yn erbyn y "dinystrwyr arswydus, taeog, dychrynllyd, ac anorchfygol" hyn, y rhai a syrthiasent arnynt "fel llewod ac eirth wedi eu hyspeilio o'u rhai ieuangc—yn eu dychrynu, eu clwyfo, a'u lladd hwynt wrth y miloedd" —a chyhoeddi nas gallai y fath