Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Gwel "Mona and Parys Copper Mines," gan O. Jones, gynt o Amlwch.)

Gelwir hi yn Ddinas Cynfor; ac mae Porth Cynfor yn ei hymyl, oddiwrth Cynfor ap Tudwal. Ystyr yr enw yw, "Porth", neu "Safon uffern." Saif y lle hwn yn mhlwyf Llanbadrig, cwmwd Talybolion.

Bernir mai Cynford ab Tudal ydoedd, un o achyddtaeth yr enwog frenin Arthur. Yr oedd yma amddiffynfa gadarn yn y cynoesoedd gan yr hen Dderwyddon, a lle o amddiffyniad i'r Mynachesau. Oddiwrth y rhai hyn y rhoddwyd enwau ar leoedd yn y gymydogaeth hon, megis "Llanlliana", &c. Er ystyr yw cynulliad neu drigfa y Mynychesau. Hefyd, ceir yma ddau fôr gilfach o'r enw Porth Seion a Phorth Gynfor. Mewn cysylltiad a'r amddiffynfa yma o fewn y gwrthfur ceir cerig glan y mor, o bymtheg i ugain pwys bob un, y rhai a gloddiwyd o'r cilfachau hyn, ac a gyflewyd gan y gwarchaedigion, fel y gallent eu defnyddio i ferthyru unrhyw fintai a gynygiai wneyd rhuthrgyrch ar eu hamddiffynfa. Eto, ceir olion hen balasdy i'r Tywysog Llewelyn a elwir Bryn Llewelyn. Yr oedd ffordd gan y tywysog wedi ei wneud o'r Ddinas i'r Aberffraw mor uniawn ag oedd modd; yr oedd wedi ei phalmantu a cherig mân, a chlawdd uchel o bob ochr iddi. Y mae rhanau o'r ffordd yn weledig heddyw mewn gwahanol fanau o Lanlliana i'r Aberffraw, lle y byddai y tywysogion yn cartrefu. Yn agos i Bryn Llewelyn yr oedd gan y tywysog dŵr uchel wedi ei godi, lle y byddai gwyliedyddion yn aros nos a dydd. Pan byddai rhywbeth pwysig yn cymeryd lle, anfonid rhedegwyr o'r naill le i'r llall, sef Llianlliana a'r Aberffraw. Yn nesaf, ceir lluaws o hen olion