Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu un arall o'r un enw yn trigo yma, sef Robert Parrys, Ieu., yr hwn oedd yn un o ddirprwywyr penodedig y brenin Harri IV., yn y fl. 1410, i wneud ymchwyliad cyfreithiol, a phenderfynu ar y dirwyon a osodid ar foneddigion Môn, y rhai a bleidiasant Owain Glyndwr. Dywedir i'r Robert Parrys yma fod yn Ystafellydd Caerlleon a Gogledd Cymru; ac mai ei arf-bais ef sydd i'w gweled ar furiau yr hen balas yn awr. Codwyd un arall yn uchel-sirydd yma, o'r enw William Hughes. Gwel "Hanes Amlwch," gan "Hen Graswr."

MYNYDD PARYS.—Hen enw y mynydd hwn ydoedd "Mynydd Trysglwyn." Derbyniodd yr enw hwn oddiwrth fferm o'r enw Trysglwyn; a dywedir gan rai mai oddiwrth lwyn dyrys o goed y derbyniodd y fferm a'r mynydd yr enw; ac mai'r ystyr yw "Mynydd y dyrys lwyn." Derbyniodd yr enw Mynydd Parys, oddiwrth Robert Parrys, yr hwn y crybwyllwyd am dano yn ei gysylltiad a Madyn Dyswy.

Dirwyodd y Robert Parrys, hwn oddeutu 2112 o foneddigion Môn i symiau dirfawr, a dirwyddodd dri-arddeg-ar-hugain o offeiriaid eraill; ac yn eu plith Llywelyn, vicar Amlwch. Tebygol yw iddo gael Mynydd Trysglwyn yn rhôdd fel canlyniad i'w wasanaeth gan y brenin. Ar ol marwolaeth Robert Parrys, ei weddw ef a briododd un o'r enw William Griffith, o'r Penrhyn. Y mab hynaf i'r boneddwr hwn a etifeddodd dir Parys, ac o'r teulu hwn tarddodd yr enw Mynydd Parys ' yn y dechreu.

Darganfyddiad cyntaf y Mwn Efydd yn y Mynydd yma.—Darganfyddwyd ef yn ddamweiniol gan Gymro o'r enw Rowland Puw. Anrhegwyd ef yn flynyddol am hyny â deg punt, ynghyd a phar o ddillad. Hefyd,