gwnaethpwyd ymchwyliad manwl iddo wedi hyny gan Ysgotyn, o'r enw Alexander Fawr, yr hwn oedd ar ei daith trwy Ynys Fôn i chwylio am fwnau, yn y fl. 1762. Ond er iddo gael iawn ddirnadaeth fod yno ychwaneg, eto yr oedd y dwfr yn ei atal i fyned yn mlaen, eithr rhoddodd ei anturiaeth ef gefnogaeth i eraill anturio yno am gopr. Gosodwyd ef gan Syr Nicholas Bayley, i gwmpeini o Maccelesfield, ac fe'u rhwymwyd mewn gweithred i wneyd ymdrech am ddyfod o hyd i'r mwn os ydoedd yno, yr hyn a wnaethant; ond nid oeddynt yn cael digon at eu digolledu. Parodd hyn i'r Cwmpeini orchymyn i'r Mwnwyr roddi y gwaith i fyny, eithr ni wnaethant. Ymgasglasant Mawrth 2ail, 1768, i'r un llecyn, a chloddiasant bwll, ac erbyn eu myned oddeutu dwy lath o ddwfn, hwy a gawsant gopr grymus; ac o hyny allan cloddiwyd miliynau o dunelli o hono hyd yn bresenol. Trachefn, gwnaethpwyd ymchwyliad i'w ddyfroedd gan fwnofydd ychydig amser ar ol hyn, a chafwyd ynddynt amryw fwnau eraill
Y dull cyntaf a'r un presenol i cloddio Mun. Ceir yma hen weithfaoedd tân-ddaearol yn brawf eglur mai dull y Rhufeiniaid gynt oedd cloddio am fwn. Gwelir lluaws o gerig o natur wahanol į rai cynwynol y mynydd hwn, y rhai a ddefnyddid ganddynt yn forthwylion. Hefyd, ceir yma ddarnau mawrion o goed llosgedig, cerig calch a fyddai ganddynt yn llosgi y creigiau i ryddhau y mŵn. Dyma y dull oedd yn yr hen amseroedd cyn dyfodiad pylor i ymarferiad. Y darnau trymaf oeddynt yn eu codi o'r mŵn yn y dull hwn oedd haner cant o bwysau Dywedir fod teisen o ofydd wedi ei chael yn mhlwyf Llanfaethlu yn haner cant o bwysau, a nod arni geffelyb i'r llytheren Rufeinig L. Ond y dull