oblegyd y pryd hwn nid oedd clawdd i'w weled yn yr holl wlad, ac yr oedd y gofal yma yn rhwystro i'r anifeiliaid sathru a dyfetha ei chnydau; ac felly gallu ogid Môn i anfon digon i gynorthwyo gwledydd eraill o rawn, &c., fel ag i gyflawn haeddu a theilyngu yr enw "Môn mam Cymru."
Gelwir trigolion yr ynys yn "Foch Môn," i'w diystyru: dywed traddodiad iddo darddu oddiwrth eu dull yn crefydda yn y canoloesau. Ceridwen, fel duwies llawnder, a ddarlunid yn y cymeriad o hwch; ei hoff ddysgybl a elwid porchellan; ei harchoffeiriad a elwid twrch, neu gwydd -hwch—sef baedd y llwyn; ei hoffeiriaid a elwid meichiaid, neu geidwaid moch; a'i chynulleidfaoedd yn foch: ac felly cyfenwyd y Monwysion "Moch Mon." Gwel "Hanes y Cymry," gan y Parch. O. JONES, tudal. 23.
Dosranwyd Ynys Mon er yn foreu yn dair cantref; a'r rhai hyny ydynt, cantref Rhosir, cantref Aberffraw, a chantref Cemaes: pa rai drachefn a ddosranwyd yn ddau gwmwd bob un, y cyntaf yn cynwys Cymydau Menai a Tindaethwy, yr ail yn cynwys Malltraeth a Llifon, a'r trydydd yn cynwys Twrcelyn a Thalybolion. Olrheinir yr hanes rhagllaw yn y drefn uchod, trwy ddechreu yn Nghantref Rhosir, gan chwilio am dardd iad ac ystyr enwau y gwahanol leoedd.