Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng Menai a Malltraeth; oddi yno i Rhy-y-wraig Mill, a therfynfaes yn agos i Trefgarnedd uchaf; ac oddiyno hyd afon Gefeni i Nant Hwrfa: oddiyno heibio Rhos-tre' Hwfa i Rhyd-y-Spardyn. Ac ä drachefn hyd afon Gefeni yn agos i Afrogwy, ac oddiyno i Llangwyllog a neuadd Coedana, a thrwy Tre-ysgawen i Lidiart Twrcelyn, ac i Bont Rhyd Owen. Eto, o Rhos-y-Groes i Ros-y-Meirch a Bryn y Crogwydd, ac yn mlaen trwy Gareg Eurgan, i ddechreu cychwyn o gornant fechan sydd yn rhedeg trwy Rhyd-y-Wraig; ac oddiyno yn mlaen at derfyn Llanffinan, i Felin Geraint-yr hon a elwir yn gyffredin Melin Pentraeth, yna ä yn mlaen i afon Ceint, ac i gornant Rhyd-Ceint; ac oddiyno dra chefn i bwll a elwir Gorslwyd. Wedyn ä yn mlaen i Ceryg Brudyn, ac oddiyno trwy Geryg (terfyn yn agos i Nant y Crwth) i afon Braint; ac oddiyno yn mlaen at ffrwd sydd yn llifo o amgylch Llwyn Ogen i Aber. Pwll Ffanogl-o'r fan y cychwynasom dynu llinell derfyn y Cantref.

CWMWD TINDAETHWY

Gellid yn hawdd tybio, ar ol dyfodiad dynion i'r ynys hon, wedi iddi gael ei diwyllio, ond nid cyn hyny, iddynt geisio cael gwybod am y porth neu a fynedfa yr aeth y rhai gynt drosodd, ac iddynt roddi yr enw Porth aeth-hwy ar y llefel y galwyd lle arall yn agos i Calais, yn Ffrainc, yn Portus Itius (porth eithaf), oddi-. wrth dyfodiad rhai drosodd i Brydain yn y lle hwnw. Tybir fod yr enw Porth-aeth-hwy" wedi tarddu oddiwrth ddyfodiad y Llywydd Rhufeinig Agricola, a'i fyddinoedd, i oresgyn ein gwlad; yr ystyr yw