Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymreig yn garcharorion yn nghastell Rhuddlan. Y mae'r awdl i'w gweled yn yr "Archaiology of Wales," tulal. 409. Ond nid oes gair o son am ferthyrdod Gwilym Ddu, na neb arall o'r beirdd dan eu henwau priodol yn amser Iorwerth I.

Bonover.—Enw ar Borth Wygyr cyn i Iorwerth I. adeiladu y dref bresenol; y mae tarddiad yr enw yma yn anhawdd ei gael allan; ceir ar lafar gwlad amryw dybiau o berthynas iddo. Barna rhai fod iddo ddau wreiddyn, un yn dyfod o'r gair bôn, ystyr enw yr ynys, a'r llall o'r gair over, am drosodd, yn dangos ei chyflead yn ei chysylltiad ag afon Menai; ac mai yr ystyr yw; yn ol ieithwedd rhai yn sefyll ar lan yr afon Menai yn Arfon—"Môn dros yr afon." Tybia eraill ei fod wedi tarddu oddiwrth orchymyn Egbert, brenin y Saeson, ar ol brwydr Llanfaes. Fel y sylwyd eisoes, gorchymynodd Egbert, na elwid yr ynys wrth yr enw Môn byth mwy, ond wrth yr enw Anglesey, felly oherwydd fod yr hen enw wedi myned heibio galwyd y lle wrth yr enw "Mon Over" Eraill a ddywedant fod iddo darddiad Rhufeinaidd, oddiwrth enw cyffredin ar foneddigesau yn eu mysg. Hefyd, yr oedd yn enw ar un o'u duwiesau Bona Dia-yr hon yr oeddynt yn ei haddoli, fel y tybir, wedi iddynt oresgyn yr ynys hon. Ystyrid hon fel ffynhonell rhinwedd a diweirdeb; ei haberth cymeradwy fyddai hwch mochyn; a gweinyddid y swydd offeiriadol gan fenywod. Y mae bono yn tarddu o'r gair bonos (neu melior) am dda, neu rinwedd; a ver yw tarddell (spring), ac felly yr ystyr yw "tarddell rhinwedd.

Porto Bello.—Y mae y lle hwn yn sefyll yn agos i Bonover—hen balasdy ydyw; ystyr y gair Porto yw porth, neu hafan; ystyr y gair Bello yw brwydr, felly