Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymgyngrheiriodd y ddau hyn, ac unasant eu galluoedd milwrol i ymosod ar Wynedd i'w thrawsfeddianu yn gyflawn. Wedi i fyddin gref lanio yn Nghadnant, hwy a anrheithiasant y gymydogaeth hon hyd Benmon-Castell Aberlleiniawg, neu yn awr "Castell Lleiniog." Ac yno adeiladasant, ef er cadw y ddyfodfa i Afon Menai, a darostwng yr ynyswyr i'r cyflwr isaf o gaeth-ddeiliaid, gan gyflawni y creulonderau mwyaf ysgeler ar lawer o honynt. Gwel y Typographical Dictionary of Wales,' gan Lewis, &c.

Defnyddir y gair cell yn yr Iwerddon, yn gyfystyr a "Llan," neu eglwys, megys cell, mannoc, cell congail, cell Tucca, &c. Cysegrwyd capel yma yn yr hen amser i St. Mair, a Lleiniog.

Pen Môn.—Saif y lle hwn tu draw i gastell Aberlleiniawg. Gelwir ef mewn cof-lyfrau Cymraeg, wrth yr enw "Glanach;" y mae ei safle ar ochr y môr, yn y cwr pellaf o'r ynys-fel y mae'r enw yn arwyddo. Oddeutu milldir o'r lan neu Glanach mae ynys fechan Priestholme,

PLWYF LLANGOED

Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir o Beaumaris; a gorwedda yr eglwys mewn lle neillduol o brydferth. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif i Cawrdaf yn Ngwent. Sant oedd o Fangor Illtyd, yr oedd ganddo eglwys arall yn Abererch, yn Arfon: geilw rhai ef yn St. Cawrdd. Y mae yr enw uchod yn arwyddo—Eglwys mewn coed, a derbyniodd yr holl blwyf yr enw oddiwrth yr eglwys.


PLWYF LLANIESTYN.

Saif y lle hwn oddeutu milldir a haner i'r gogledd