Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

briodas, aeth y priodfab i ffordd, a bu am lawer o flynyddau heb ddychwelyd. Ni chlywodd neb o'r teulu yn y cyfamser ddim yn ei gylch, a chymerodd ei wraig yn ganiataol ei fod wedi marw, a chytunodd i brïodi drachefn; ond ar ddiwrnod y brïodas dychwelodd Gwalchmai yn ol. Cyn myned at y tŷ, canfyddodd rïan yn golchi rhyw ddilledyn yn Abernodrwydd, ac yn ystod yr ymddiddan fu rhyngddynt, dywedodd y rhïan mai golchi crys ei thad yr ydoedd, a hyny er coffadwriaeth am dano. Adroddodd yr holl hanes wrtho, a chanfyddai Gwalchmai mai ei ferch ef ydoedd hi; yna aeth i'r tŷ, a hawliodd y cyfan fel ei eiddo. Y diwedd fu i Gwalchmai a'r ail ŵr gytuno i derfynu y cweryl trwy un o fabolgampau yr hen Gymry, sef neidio.

Tranoeth aethant at y gorchwyl, a therfynodd yr ymdrech yn ffafr Gwalchmai ap Meilir, a chododd yntau feini yn y lle er coffadwriaeth am yr amgylchiad, y rhai sydd i'w gweled hyd heddyw. Yr oedd Gwalchmai yn fardd o fri yn ei amser, a chyfansoddodd englynion i'r amgylchiad, un o ba rai sydd fel y canlyn:

"Neidiais, a bwriais heb arwydd—danaf,
Wel, dyna feistrolrwydd;
A'r rhodd oedd yn ddigon rhwydd,
Wedi'r naid dros Abernodrwydd!"

Gelwid y lle oddiwrth yr amgylchiad hwn hyd heddyw yn "Dair naid."

PLWYF LLAN-DDYFNAN.

Saif y plwyf yma oddeutu chwe' milldir i'r gogledd. orllewin o Beaumaris. Derbyniodd ei enw oddiwrth Dyfnan ap Brychan Brycheiniog; yn y bumed ganrif cysegrwyd yr eglwys hon iddo: daeth yma o Rhufain oddeutu y fl. 180, i gynorthwyo dychweliad y Brython.-