O berthynas i ystyr a tharddiad yr enw Menai, ceir amrywiol farnau, fel yr awgrymwyd ar y dechreu. Nid yw yr olrheiniad manylaf ond amcan-dyb ar y goreu. Cydnabydda yr holl hynafiaethwyr fod rhandir yn yr ynys hon yn cael ei alw wrth yr enw Cwmwd Menai; ond braidd y cydunant mewn dim arall o berthynas i'r lle. Tybiai Mr. Rowlonds, yn ei ymchwyliad i wreidd-darddiad yr enw hwn, iddo darddu oddiwrth y gair "Fretum," am gulfor sydd yn gorwedd rhwng Môn ac Arfon. Arwydda'r enw yn ei natur a'i ansawdd "narrow water," (main-au); hefyd dywed fod eau neu au yn y Ffrancaeg, yn sefyll am ddwfr. Parablir ef Maene neu Menai. Nid yw hyn yn anghredadwy, pan ystyrir fod y Rhufeiniaid wedi tori i lawr a newid llawer o enwau eraill oddiwrth eu seiniau dechreuol; nid yw yn annhebygol iddynt alw y dwfr hwn yn mæna, neu menai (h.y., Aqua Maenae), ac iddo mewn canlyniad gael ei alw felly hyd heddyw.
Hefyd, ceir amryw eiriau cyfansawdd yn terfynu yn au ac aw, y rhai a gynwys y meddylddrych o ddwfr, megys—Manaw (Isle of Man) Llydaw, (Armonica); Gene-au (Geneva) h.y., "genau y llyn," Llyn Llwydaw, yn sir Gaernarfon; Alaw, afon yn Môn; Gwlaw (rain.) Dywedir nad yw yn afresymol i ni dybied fod y gair au neu aw yn yr iaith Geltaidd yn arwyddo dwfr. Gellir hefyd, weithiau, ychwanegu y terfyniadau trwy gysylltu llythyren ychwanegol atynt, i amrywio ac i arwyddo rhyw neilluolrwydd, megys awy; fel y ceir yn yr Iwerddon awy-duff, am ddyfn-ddwr. Neu, yn fwy cyfyngedig wy, megys yn Nghymru, lle y mae yn derfyniad i amryw eiriau cyfansawdd am afonydd, megys Dyfrdwy,