Y mae Elwy, Medwy, Lligwy, Conwy, Gwy, &c. yr engreifftiau a nodwyd yn sail digonol i'r dybiaeth yma o berthynas i ystyr yr enw Menai.
Mae yn amlwg fod yr enw main-au, neu yn fwy llygredig maene, yn cael ei fynych arfer a'i gymhwyso at amryw leoedd; ac, i gadarnhau hyn, nodir tri cul-for (fretum) o amgylch ynys Prydain, a elwir maene hyd y dydd hwn. Y mae y cyntaf yn Kent, ar gyfer Normandy, yn Ffrainc; yr ail yn sir Benfro, yn Nghymru; a'r trydydd yn agos i Mul of Galway, yn yr Ysgotland. Y Brythoniaid a alwant y culfor, lle yr anturiodd Cæsar i Brydain, wrth yr enw Pwyth, neu Porth meinlas, a dywedir fod y gair Groeg Limen yn cael ei wneud i fyny o ddau sill, lle a main; h.y., lle main—porth, neu ferry. Oddiwrth y sylwadau hyn am darddiad enw Menai, casglid yn naturiol mai main aw yw yr ystyr, fel y barnai Mr. Rowlands.
Am ychwaneg o fanylion yn nghylch tarddiad ac ystyr yr enw Menai, gwel "Mona Antiqua," tudal. 188.[1]
Taflen o'r plwyfydd yn ghnwmwd Menai, yn nghyd a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:—
Plwyf. | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llangeinwen | 600 | 11 Llanddwyn (Merch Brychain Brycheiniog Seren Ddydd y Cymry) |
500 | |||
2 Llangaffo | 600 | 12 Llanfihangel Ysgeifiog | anhysbys | |||
3 Llangefni | 620 | 13 Rhoscolyn. | 629 | |||
4 Rhan o Treguian | 141 | 14 Rhan o Llantrisant | 570 | |||
5 Llanidan | 509 | 15 Rhan o Llangwyllog | 601 | |||
6 Llanddeinioll Fab | 740 | 18 Rhan o Llanerchymedd | 403 | |||
7 Llanedwen | 610 | 17 Ceryg Ceinwen | anhysbys | |||
8 Llanfair y Cwmwd | 1237 | |||||
9 Newborough | 500 | |||||
10 Llanffinan | 609 |
PLWYF LLANGEINWEN.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Cafodd yr enw yma