Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

40

Hanes ac ystyr Enwau

oherwydd i'r eglwys gael ei chysegru i St. Ceinwen,

merch Brychan Brycheiniog, yn y bumed ganrif - i'r hon yr oedd eglwys arall wedi ei chysegru yn Ngheryg Ceinwen. Ystyr yr enw yw , Llan - y -Gwen -gain , ac yr oedd Ceinwen yn chwaer i Donwen .

Celleiniog . - Gwel y sylwadau ar Porthlleiniog, yn nghwmwd Tindaethwy.

Aberbraint, neu Dwyran , fel y gelwir y lle yn bres enol . – Rhanwyd maerdref Aberbraint gan Idwal, Ty. wysog Cymru, yn ddwy ran : rhoddodd un ran i St. Beuno, a'r rhan arall i Esgob Bangor. Gelwir hwy hyd

heddyw y Dwyran Esgob, a Dwyran Beuno ; ystyy yr enw yw " dwy ran ."

Gelwid y lle yma yn yr hen gof-lyfrau yn “ Aber Braint, " oblegyd fod yr afon Braint yn rhedeg drwy y lle i'r môr. Dywed rhai i'r afon dderbyn ei henw oddi

wrth fynych ymddangosiad brain ar ei glanau. Tybia eraill iddi gael yr enw oddiwrth Bran, tad Llywarch, gan rai o'r hiliogaeth oedd yn preswylio yn y fro hon yn yr hen oesau .

Eraill a farnant iddi gael yr enw oblegyd ei bod yn un o afonydd cysegredig y Derwyddon ; a thybir fod afon

Brenta , yn Italy, wedi cael ei galw felly am yr un rheswm .

Dywedir fod yr Hafren yn cael ei galw ar y dechreu yn awy-vraint, neu avrant : yn cael ei wneud i fyny o'r hen air Cymraeg awy, am afon , ac o'r gair braint ( royal or consecrated river ). Olynog Fechan . - Derbyniodd yr enw oddiwrth Clynog

Fawr, yn Arfon ; yr ystyr yw , " abounding with brakes ."