Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhôdd gan un o dywysogion Gogledd Cymru; ac arhosodd felly hyd nes y dadgorfforwyd y mynachdai yn amser Harri VIII., pan roddwyd y berigoriaeth ganddo i Birham, yn Surrey. Ar ol hyny, gwerthwyd hi gan Elizabeth i Edmond Downam a Peter Ashton, &c. Dosranwyd y plwyf hwn i'r maesdrefi canlynol:-Tre'r Driw, Tre'r Beirdd, Bodowyr, Myfyrion Gwydryn, a rhan o Bentref Berw.

Bodowyr.—Ceir lluaws o enwau ar leoedd yn yr ynys hon yn dechreu gyda Bod, Caer, a Tref. Goddefer ychydig o sylwadau ar hyn.

Y mae yn naturiol tybied ddarfod i'r preswylwyr ffurfio eu hunain yn llwythau a theuluoedd gwahanol, (wedi iddynt arloesi y lleoedd cymydogaethol, a lladd rhai o'r creaduriaid gwylltion, a dofi y lleill), a rhanu yr ynys a chodi terfynau rhyngddynt a'u gilydd. Gwelir rhai o'r terfynau hyny hyd heddyw yn rhedeg yn hir a chwmpasog; a gelwir hwy yn awr wrth yr enwau—Rhos dre' hwfa, Rhos Neigr, Rhos Lligwy, Rhosfawr, &c.

Yn y lleoedd hyn adeiladasant eu pebyll a'u cabanod, gan godi bryniau hirgrynion o ddaear yma a thraw, a'u coedio a'r canghenau a dorant mae yn debygol, a'u toi a'r tywyrch gwydn a godant, neu'r cyrs, neu rhywbeth tebyg, fel y caent leoedd i orphwys y nos, ac i gadw eu hangenrheidiau nes y gwnaent drigleoedd mwy rheolaidd. Gelwir y rhai'n, "Cytiau Gwyddelod." Tybia rhai i'r Gwyddelod gynt fod yn trigo ynddynt: ond cyfeiliornad yw hyn, os wrth y Gwyddelod y meddylir trigolion yr Iwerddon; ni fu y rhai'n yn preswylio erioed yma mor hir fel ag i adael nodau fel hyn ar eu hol—oblegyd y Gwyddelod a gyhuddir o ysbeilio yr