Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn dref benaf yn yr ynys hon—Yma yr oedd eisteddle cyfiawnder a barn i holl gwmwd Menai, a benodwyd i dywysogion Cymry gan y penadur neu y teyrn hwn. Hefyd, hwn a gorphorodd y fwrdeisdref yma, ac a anrhydeddodd y lle a braint masnachol, ynghyd a rhagorfreintiau eraill, y rhai wedi hyny a gadarnhawyd gan fraint—ysgrif 17eg Iorwerth II., ac ar eisteddiad seneddol cyntaf a gynhaliwyd gan Iorwerth III. Yn nheyrnasiad Harri VII., oherwydd y camddarluniad a wnaethpwyd i'r penadur, symudwyd assizes, a holl drafnidaeth eraill y wlad, o Beaumaris i Newborough. Cyn hyn, buont yn cael eu cynal yn Beaumaris am ddau gant a haner o flynyddau. Yn y 15fed o deyrnasiad Harri VIII., cafodd y bwrdeisdrefwyr fraint—ysgrif newydd, yn yr hon yr oedd yr holl ragorfraint wedi eu hadrodd—y rhai a adroddwyd ac a gadarnhawyd yn y fraint-ysgrifau blaenorol; ond rhoddwyd hon i fynu yn y flwyddyn ddilynol. Yn y 27ain o deyrnasiad hwn, Newborough fel tref Y sir mewn cysylltiad a bwrdeisdrefi eraill, oedd a hawl i anfon cynrychiolydd i'r Senedd, a pharhaodd yn y rhagorfraint hon hyd yr eilfed Iorwerth VI. Pan adfeiliodd y lle hwn yn fawr oddiwrth ei werth blaenorol, rhyddhawyd ef ar gais y brodorion eu hunain oddiwrth y rhwymedigaeth i'r drael o gynorthwyo aelod seneddol, a'r ddinas-fraint etholiadol a gadwyd yn neillduol i Beaumaris. Yn yr eilfed a'r drydedd o deyrnasiad hwn, yr Assizes a'r Sessions, ynghyd a busnes cyffredinol y wlad, a symudwyd o'r dref hon, oherwydd ei chael yn anghyfleus i'r amcan y bwriadwyd hi; ac adferwyd hi i Beaumaris ar ol bod yn gynaledig yn Newbarough dros bump-a-deugain o flynyddau.

Eto, er y trefniadau hyn, yr oedd bwrdeisdrefwyr