Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Groegiaid a'r Rhufeiniaid, Tybir mai ystyr yr enw Dwynwen yw, "Seren Ddydd y Cymry."

Tua gwawriad y diwygiad Protestanaidd, tylododd "Cyff Dwynwen," a darfu am elw y rhai a weinyddent wrth ei hallor. Yn nyddiau Owen Glyndwr, bu ychydig o ffrwgwd boeth yn nghylch y "cyff." Gosododd un Iorwerth Fychan, person Llanddoget, yn sir Ddinbych, ei law ar yr offrymau; ond rhoddodd Griffith Young, Ll.O., Canghellwr y Tywysog Owen, derfyn ar driciau Iorwerth.

Cyfeirid at y ffrwgwd hon mewn hen weithred Lladin, yr hon sydd ar gael hyd heddyw. Dyddiwyd hi"19 Januarii, Anno Dom. 1404."

Aneddai y prebendari-Richard Kyffin, LI.D., Deon Bangor, yn nheyrnasiad Rhisiart III. a Harri VII., fel y sylwyd eisoes, yn Llanddwyn. Chwareuodd y "Deon Du," fel y gelwid ef oddiwrth ei wedd dywyll, yn ol pob tebygolrwydd, ran bwysig yn helyntion ei amserau cythryblus. Ymohebodd trwy gyfrwng ei gyfaill, yr Esgob Morton, â Harri VII., Duc Richmond y pryd hyny, pan oedd ar encil yn Brittani, yn Ffraingc, a chymerodd ran weithgar gyda Syr Rhys ap Tomas, o'r Deheudir, i ddwyn oddiamgylch adferiad y teyrn hwn. Anfonai Cyffin ei negeseuau i Lydaw gyda llongau pysgota o'r goror anial ac anghysbell hon. Gallesid tybio ei fod mewn ffafr fawr gyda'r brenin; a phe buasai yn ddibriod, tebyg y dyrchafesid ef gan ei deyrn i'r faingc esgobol. Cafodd rodd o diroedd lawer am ei wasanaeth pwysig, a chaniatad i seilio a gwaddoli chancel ar y tu deheuol i Eglwys Gadeiriol Bangor. Gwaddolodd mawl-dŷ a degymau Llangoed, Llaniestyn a Llanfihangel Dinsylwy yn yr ynys hon. Claddwyd y