Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oes un amheuaeth nad oedd ganddynt amddiffynfa yn Nghaergybi, oherwydd cloddiwyd i fyny yma amryw weithiau arian Rhufeinig, rhai mor ddiweddar o'r fl. 1814.

Bryn Gwallon.—Rhandir yn Rhoscolyn; y mae yn debygol fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth Caswallon, fel coffadwrtaeth am ei fod wedi lladd Serigi, tywysog y Gwyddelod, yn y gymydogaeth hon.

Bod Ior.—Dyma un o anedd-dai y llywyddion Rhfueinig yn yr ynys hon, fel y crybwyllwyd o'r blaen yn y sylwadau ar blwyf Llansadwrn. Yn y plwpf hwn mae Creigiau Crigell. Gwel sylwadau arnynt yno.