Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II CANTREF ABERFFRAW.

GELWID y gantref yma wrth yr enw hwn, oddiwrth ffrwd fechan sydd yn ymarllwys i'r môr yn y fan hon o'r enw Aberffraw. Dyma y lle a ddewisodd tywysogion Cymru i drigo. Dosranrwyd Aberffraw yn ddau gwmwd, sef Malltraeth a Llifon.

I CWMWD MALLTRAETH.

Tarddai enw Malltraeth oddiwrth ansawdd y lle, yr hwn sydd yn gorsiog, yn dywodlyd, a pheryglus. Dywed un am dano fel hyn:—" Malltraeth, an astuary; a place overflowed with water, over which the tide goes."

Taflen o'r holl blwyfydd yn y cwmwd hwn, a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:

Plwyf O.C. Plwyf O.C.
1 Aberffraw 615 7 Llangristíolus 700
2 Llanbeulan 630 8 Trefdraeth 600
3 Llangadwaladr 650 9 Llangwyfan 714
4 Llanfeirion 600 10 Rhan o Tre' Gaian 611
5 Rhan o Eglwys St. Newdion . 11 Rhan o Tre' Gwalchmai .
6 Rhan o Langwyllog 601 . .


PLWYF ABERFFRAW.

Aberffraw.— Y mae y pentref hwn ar lethr ffrwythlawn, yn gwynebu tua chodiad haul; ac o dano yr ym. ddolena afon dryloew Ffraw tua'r môr. Ar yr ochr arall i'r afon, gwelir tywyn mawr llydan, yn ymddysglaerio fel yr eira gwyn a'r ddiwrnod goleu. Oddiwrth