Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amddiffynfa Din Dryfal.—Tardda yr enw o'r gair Tin, am amddiffynfa, ac o'r gair Tryfal, am drionglog; felly yr ystyr yw, "Amddiffynfa dair onglog."

Y mae olion yr hen amddiffynfa hon i'w gweled hyd heddyw ar dir fferm o'r un enw. Ymddengys fod yr amddiffynfa hon wedi bod yn noddfa bwysig gan yr hen drigolion pan fyddai gwahanol estroniaid yn ymosod ar, ac yn anrheithio yr ynys.

Yn canlyn wele hanesyn (wedi ei ddyfynu) sydd yn dwyn perthynas a'r amddiffynfa uchod:—"Y Gwyddelod, o dan lywyddiaeth eu tywysog, Serigi Wyddel,y rhai hyn ar ol eu gorchfygu yn ardaloedd eraill Cymru, a ffoisant i'r ynys hon, a hwy a wersyllasant yn agos i'r amddiffynfa gref a elwid gan y brodorion yn "Din Dryfal": a bu brwydr galed rhwng gwŷr Môn a'r Gwyddelod yn yr ardal hono, mewn lle a elwir hyd heddyw yn "Ceryg y Gwyddil," a llawer o'r Monwysion a gwympwyd yma. Ond cyn terfynu y frwydr, daeth yno Caswallon Llaw Hir, ap Einion Yrth, ap Cunedda, a'i gefndryd Cynyr, Meilyr, a Meigyr, meibion Gwron ap Cunedda, gyda byddin gref; a gwnaethant ymosodiad ffyrnig ar y Gwyddelod, gan eu curo, a'u hymlid hyd gwr eithaf yr ynys. Ac wedi ymladd gwaedlyd, gorchfygwyd y Gwyddelod; a Chaswallon Llaw Hir a laddodd Serigi Wyddel a'i law ei hun, ac ni adawyd neb o'r estroniaid hyn yn Nghymru, oddieithr y rhai a wnaethpwyd yn gaethion. A Chaswallon a adeiladodd eglwys yn Môn, yn y fan lle yr enillodd y frwydr, ac a'i galwodd yn "Llan y Gwyddel," yn awr Caergybi, neu yn hytrach, "Côr Cybi."

Eglwys y Beili.—Ystyr y gair Beili yw "allanfa," lle cauedig, carnedd, a bedd-dwyn Yr oedd y bedd.