II. CWMWD LLIFON.
Y mae tarddiad yr enw hwn yn lled aneglur: ceir ef wedi ei ysgrifenu mewn hen gof-lyfrau yn "Llewon." Tybir ei fod wedi ei roddi ar y cyntaf yn enw i'r tiriogaethau hyn, oblegyd eu bod yn rhan mwyaf gorllewinol yr ynys. Yr oedd y Gorllewin yn cael ei alw yn yr hen Frythoneg yn gorllewon, neu gorllewin, fel y mae hyd heddyw. Ond dywed eraill iddo darddu oddiwrth llif dwfr."
Taflen o'r plwyfydd yn nhwmwd Llifon, a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:
| Plwyf | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
| 1 Llanbeulan (Rhan) | . | 8 Llanfihangel-y-Trethau | . | |||
| 2 Llechylched | . | 9 Llanfair-yn-neubwil | . | |||
| 3 Tal-y-Llyn | . | 10 Lianynghenedl | 700 | |||
| 4 Llanvaelog | 740 | 11 Llantrisant (Rhan) | 570 | |||
| 5 Ceirchiog | . | 13 Llanllibio | . | |||
| 6 Tref Gwalchmai (Rhan) | . | 13 Bodwrog | 609 | |||
| 7 Bodedern | 700 | 14 Llechgynfarwydd | 630 |
PLWYF LLANFAELOG.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu chwe' milldir i'r de-orllewin o Langefni. Saif yr eglwys yn bur agos i lan y môr: cysegrwyd hi oddeutu y seithfed ganrif, i St.Maelog ap Caw Cawlyd. Hefyd, adeiladodd eglwys Dyfaelog a Llandyfaelog Fach, yn nghyd a Llandyfaelog Tref-y-Graig yn Nyfed: ei gofwyl yw Rhagfyr 21ain. Gelwir y persondy wrth yr enw Tŷ Gwyn; ac y mae pwll bychan yn agos yno, yn cael ei alw "Llyn Maelog."
Ceir yma amryw gromlechau, neu allorau y Derwyddon—un ar dir Tŷ Newydd, un arall ar Fynydd y Cnwc, a thri o rai bychain eraill yn agos i Afon Crigyll.
Ystyr yr enw mael yw enill; ac, awg—craffus: felly ystyr yr enw Llanfaelog yw, "Llan yr enillydd craffus.
Llanfaelog.—Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth