o berthynas i darddiad yr enw hwn: tybia rhai iddo darddu oddiwrth yr hen Sant Cynfarwydd ap Awy, ap Lleurawg, tywysog Cernyw; eraill a dybiant i'r enw darddu oddiwrth Gwenafwy, merch Caw Cawlyd. Dywedir fod eglwys wedi ei chysegru iddo oddeutu y chweched ganrif-pa le ni wyddis, os nad hon ydyw,-ond y farn gyffredin yw, mai i'r hen sant crybwylledig y cysegrwyd hi.
Y mae'r gair "llech" yn nechreuad yr enw, fel blaen-ddod, wedi ei gymeryd oddiwrth gareg fawr a godwyd yn gofgolofn goffadwriaethol, yr hon a fu, hyd yn ddiweddar, yn ansigledig ers oesau lawer; ond a dynwyd i lawr ers tro bellach—a gresyn oedd hyny.
Y mae y fywiolaeth eglwysig y plwyf hwn mewn cysylltiad â phersonoliaeth Llantrisant, yn archdeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor. Y mae yma leoedd addoliad gan y Trefnyddion Calfinaidd a'r Wesleyaid. Derbynia blant tlodion y plwyf eu haddysg yn Ysgol Genedlaethol Llanerchymedd. Rhoddodd un o'r enw Mrs. Margred Wynne, yn ei hewyllys, ran o dir bychan—cynyrch yr hwn a neillduodd i gynorthwyo un hen wreigan oedranus ac anghenus. Rhoddodd un arall, Mrs. Catherine Roberts, yn ei hewyllys, 50p. yn arian at gynorthwyo dwy ddynes dlawd yn cadw tŷ; ac felly y mae yma ychydig roddion elusenol er bûdd i'r tlodion. Mewn cae yn gysylltiedig a'r eglwys hon yr oedd y maen Llechgynfarwydd, yr hwn oedd uwchlaw naw troedfedd o uchder; ond sydd wedi ei dynu ymaith fel yr awgrymwyd, ac ymddangosai ei fod yn dra henafol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 185p. 5s. 0c.
Tref Ddo, neu efallai, Tref Bold.—Y mae hwn yn un