90
Hanes ac ystyr Enwau
dwyn yr enw Ceryg yn aml yn dangos terfynau helwr. iaeth ein hynafiaid. I'r gorllewin o'r fan yma, mewn lle
isel a elwir “ Ynys y Penrhyn , " y mae hen gladda Fry tanaidd helaeth ; ond erbyn hyn mae y ceryg teneuon y
gwastadoedd oedd yn cyfansoddi y feddadeiladwaith, gan mwyaf wedi eu cludo ymaith i adeiladu ty yn y gymyd ogaeth.
I'r gorllewin o'r fan yma mae Carna, neu “ Carnedd yr Esgobion .” Yr oedd y tywyn hwn yn faenoriaeth i Esgobion Bangor, a dyma lle yr oedd terfynau y faen oriaeth, a charnes coffadwriaeth terfynau i dir esgobol. I'r dê-ddwyrain o'r Tywyn y mae Rhos Neigr, pentref bach ar lan y môr , a dim ond tywod gwyn ar yr ochr
ddeheuol iddo. Tybir mai llygriad o'r gair rus am wlad, a'r gair neigr, o'r gair niger am ddu ; ac felly yr ystyr yw "gwlad ddu,” am mai mawnog yw y tir.
Wrth ddilyn yr afon Crigyll i'r gogledd am tua milldir . a-baner, deuir i le a elwir “ Porthor,” yn briodol “ Porth Ior," neu “ Porth y Llywydd .” Ac yn mlaen , haner milldir yn nes i'r gogledd, cyr
haeddir Castellior, lle ceir olion hen amddiffynfa fawr. Gwel ystyr yr enw Castellior, yn y sylwadau ar blwyf Llansadwrn , yn nghwmwd Tindaethwy. Hefyd, i'r gogledd o Porthor, ar ochr orllewinol Crigyll, mae fferm o'r enw Trephwll ( Tre -bwll) eto . Mae yn y tir yma gyferbyn a Castellior, olion hen amddiffynfar mae yn de bygol mai math o ol-amddiffynfa i'r Castellior ydoedd. Ceir fferm arall o'r enw Ceryg Cynrig ,” (dywed un o'r beirdd mai y Cynrig hwn ydoedd mab Meredydd Ddu). Yn nhir Allwen Wen, ar y terfynau, y mae ceryg
ar eu penau, ac yr oedd ychydig ilynyddau yn ol gareg arall ar ei gwastad tu cefn iddi i'w gweled, a chroes