tua phymtheg modfedd o hyd, a deg o led, wedi ei thori yn lled ddofn ynddi. Tebygol yw mai careg fedd rhyw ŵr duwiol o'r hen amser a gladdwyd yno ydyw.
PLWYF LLANFAIR YN NEUBWLL.
Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r dê-ddwyrain o Gaergybi. Tardda yr enw hwn ar y plwyf oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair; ac hefyd oddiwrth ddau o lynau bychain, neu byllau cyfygos. Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth sefydlog, mewn cysylltiad a pherigloriaeth Rhoscolyn.
Tref lesg.—Derbyniodd yr enw oddiwrth un o'r enw Llesg, yr hwn a fu yn byw yno.
Tyddyn-treian.—Tyddyn bychan yn y cwr de-orllewinol i'r plwyf hwn, mewn can' troedfedd i tywyn Drewain. Tybir mai Treian ydoedd wraig weddw o'r enw Susannah, gan mai ei enw yn llyfr y tirfeddianydd ydyw, "Tyddyn Susannah," a'i enw yn llyfr y dreth ydyw Tyddyn Treian. Yr enw priodol aruo felly fyddai-Tyddyn Treian Susannah.
Gelwir ef hefyd "Ty Gwrthun;" tybir i'r enw hwn gael ei roddi arno fel gwawdiaeth, gan rai o deulu-ynnghyfraith Susannah.
PLWYF LLANYNGHENEDL.
Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir i'r gorllewin o Bodedern. Cysegrwyd yr eglwys i St. Enghenedl, ap Cynan Garwyn, ap Brochwel Ysgythrog, yn y seithfed ganrif.
Yr oedd Enghenedl yn dywysog y byddinoedd Prydeinig o dan Cadfan, yn mrwydr fuddugoliaethus Caerlleon, yn y fl. 603. Dywedir ei fod wedi ei ddyrch-