Twm, neu Thomas Evan, yr oeddwn i yn ysgrifenu fy enw cyn myned y pymthengnos hynny i'r dref i ddysgu Saes'neg; dyna'r pryd i'm cyfenwodd hwnnw fi yn Thomas Edwards, oblegid mai Evan Edwards oedd enw fy nhad, ac na fyddai ond basdardiaid yn myned ar ol yr enw cyntaf. Peth bynnag, mi gefais yr anrhydedd o fod yn ysgrifenydd i'r hên brydydd; pan wnai ef gân, fe ei cofiai hyd nes deuwn ato. A phan fyddai yr hên wr yn dywedyd ei waith, mi godwn weithiau i ymresymu âg ef, oni byddai y peth yn well ffordd arall; braidd nad oedd ef yn eiddigeddu wrthyf, rhag fy mod yn gwneyd artaith ar ei waith ef.
Ond cyn fy mod yn ddeuddeg oed, fe gododd saith o lanciau Nantglyn i chwareu interlude, a hwy a'm cymerasant innau gyda hwynt, rhwng bodd ac anfodd i'm tad a'm mam, i chwareu part merch; oblegid yr oedd gennyf lais canu a'r goreu ag oedd yn y gymydogaeth. Mi gefais y part i'w ddysgu mewn cwrw gwahawdd i ddyn tylawd, yn y Fach, yn agos i Felin Segrwyd, lle y telais y tair ceiniog cyntaf erioed am gwrw. Felly ni a ddysgasom chwareu yn ganolig yn ol y dull ag oedd y pryd hynny. Minnau yn hogyn â'm holl ddymuniad ar ddarllain ac ysgrifenu, oeddwn yn athrylithgar iawn at ganu; mi wnaethum interliwd (ar y llyfyr elwir Priodas Ysbrydol," gan John Bunyan) braidd i ben, a hynny heb wybod i neb; ond fe ddaeth rhyw lanc o sir Fon heibio y Nant, ac a gafodd letty; ac ef oedd ysgolhaig, a thipyn o'r natur ynddo, minnau mewn caredigrwydd yn dangos pob peth iddo ag oedd gennyf, yntau wrth fyned ymaith a ddygodd gan mwyaf o'm llyfyr. Braidd