Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfreithiwr a wnaeth writ â'i law ei hun, heb un Sirydd na Deputy wrthi, ond ei waith ef ei hun. Minnau a insistiais am gael ei gweled, ac adnabum, ac eraill gydâ mi, a'r hen writ yn tystio llaw y sirydd. Beth bynnag, mi yrrais, gyd-rhyngwyf âm cymdogion, chwech neu saith o geisbyliaid i ffwrdd ar unwaith.

Beth bynag, rhwng fod cario o Gaer wedi mynd yn waeth, a blinder ac ofn y gwalch hwnnw, mi a gymerais goed gan un Sion Stokes, o Groes Oswallt, a'r coed oedd ar dir Dolobran, yn sir Drefaldwyn. Mi a gymerais y coed a'r ffarm hefyd, ac yno yr aethum. Yr oedd yno ffarm dda, a melin yn ei chanlyn, ac heb fod yn rhy ddrud. Mi a fum yno yn cario ac yn hwylio i drin y tir, a gosod llawer o hono. Ond yng nghanol y cwbl, yr oedd y diawl ar waith, a chanddo dwrnel i bobi i mi yno fara lefeinllyd. Fe gafwyd yno writ yn fy erbyn; minnau a ddeallais ac a ddaethum at gyfreithiwr Dinbych, i ddeisyf heddwch am amser—fy mod mewn cychwynfa bywoliaeth yn y wlad honno; yntau a ysgrifenodd i mi lythyr, ac yn bur fwyn wrthyf, a pheri imi ei roddi â'm llaw fy hun i'r twrne hwnnw, byddai pob peth yn burion. Minnau yn llawen aethum ar gefn fy merlen adref; ac yno mi a ystyriais beth a allai fod yn y llythyr ; cymerais goes pibell ac a'i dodais yn tân ac a chwythais trwyddi i egoryd y sel; a phan egorais yr oeddwn fel rheiny a'r arian yn ngeneuau'r ffetanau, yr oedd yno yn gynwysedig am i'r gwalch hwnnw ganlyn arnaf, mai goreu y cam cyntaf, fy mod yn ddigon abl i dalu.

Pan welais beth oedd yno, mi losgais y llythyr, ac a gymerais y carnau i'r Deheudir,