Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gosod ffwrneisiau, at bob achos, a gratiau, a stoves, a boilers; ac aml iawn y byddaf yn smoak doctor.

Yr wyf yn ennill cyflog lled fawr; ond yr ydwyf yn fwy methiantlyd am weithio, rhwng henaint ac argraff ambell godwm a gefais, yn fy nghorph i'm coffau yn fynych.

Yn mhen blwyddyn ar ol i mi ddyfod o'r Deheudir, mi a darewais wrth hen gariwr coed a fuasai gyda myfi lawer gwaith yn cyd gario; ac yn yr Hand yn Rhuthyn yr oeddym, gydag amryw eraill: ond ar ryw ymddiddan, ebe fy ngyfaill wrthyf, Twm yr wyt yn llawer gwanach nag oeddit pan oeddym yn cyd gario coed. Minmau a attebais, fy mod i yn meddwl nad oeddwn ddim gwannach: ac yn y cyfamser fe ddygwyddodd fod sacheidiau o wenith yn y neuadd hono, i fyned i Gaer gyda waggon y cariwr: ac yr oeddynt â thri mesur yn mhob sach; mi ddywedais, os cawn dair sach ar y bwrdd, a'u c'lymu y'nghyd, y cariwn hwynt yn ol ac y'mlaen i'r ystryd; ac felly gwnaethum ; ac fe ffaeliodd pob un arall ag oedd yno.

A rhyw dre arall, pan oeddwn yn Nghaer, mi a godais faril o borter i ben ol y waggon o'r ystryd, o nerth cefn a breichiau.

Mia fu'm, dro arall, yn cario wyth droedfedd o bren derwen ar fy nghefn; a llawer o ryw wag wyrthiau felly a wnaethum, nad wyf ddim gwell heddyw.

A thu hwnt i bob peth, mi a fu'm yn euog, wrth gario o Gaer, a chwareu Interludes, o drin ar y mwyaf ferched anllad, yr hyn arfer, medd y gwr doeth, sydd yn gwanychu dynion gymmaint neu fwy, na dim arall; a'r pechod o