Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oeddwn erbyn hyn cylch wyth oed; a'r haf hwnnw mi gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos; a phan gyntaf y dysgais ysbelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifenu; mi heliais gnotiau yr ysgaw i wneyd inc, ac a dreuliais hynny o ochrau dalennau llyfrau ag a ddown o hyd iddynt. Ond o ddamwain fe aeth siop yn dref ar dân, ac a losgodd gan mwyaf oll, ond ambell ddarn a safiwyd; ac ym mhlith y darnau llosgedig fe gafodd fy mam am geiniog ryw gynnifer o bapurlenni llosgedig eu corneli, ac a wniodd i mi gopi. Minnau aethum at y gof i Waen Dwysog, ac fe ysgrifenodd yr egwyddor ymhen uchaf y dalennau; a gofalus iawn a fum yn canlyn ar lanw yr holl bapur, yn gyffelyb i ol traed brain. Cael papur ac inc, ac ambell gopi gan hwn a'r llall, hyd oni ddysgais ddarllen Cymraeg, ac ysgrifenu ar unwaith.

Mi a ysgrifenais lawer o gerddi, a dau lyfyr interlude, cyn bod yn naw oed; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu fe ddaeth hwn a'r llall i edliw i'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saesneg; ond wrth hir addaw hwy a'm gadewsant i fyned i'r dref i'r ysgol, lle bum am bymthegnos yn dysgu Saesneg; a dyna'r cwbl. Fe orfu imi ddyfod adref i wneyd rhywbeth am fy mara, a thuag at gynnal y plant eraill.

Ond gan faint oedd fy awydd i ddysgu, mi a ganlynais arni o hyd. Pan ddown o'r maes i'm pryd bwyd, mi awn at dresser, lle yr oedd drawer a phapurau gennyf, ac ysgrifenwn, er allent hwy yn peri imi gymmeryd bwyd; a'm heithaf lawer pryd oedd cipio tamaid o frechdan yn fy llaw, a hynny gydâ llawer o ddrwg, eisieu bwyta llaeth neu botes, yn lle yr ymenyn.