Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyn a du. Aethum allan i'r heolydd gan ganu a bloeddio, a thyrfa fawr o blant a llanciau o fy amgylch yn chwerthin ac yn fy maeddu. Daeth yr Hedd-geidwad ataf i fy nghymeryd i'r carchar am feddwi a pheri cynwrf ac aflonyddwch yn y dref: ac wrth i mi nacâu myned gydag ef yn rhwydd, a cheisio ei wrthwynebu, aeth fy mraich o'i lle . Bum yn y carchar mewn gofid mawr drwy y nos. Bore dranoeth dygwyd fi i'r llys o flaen Maer y dref, i fy mhrofi am fy nghamymddygiad y noswaith flaen orol. Gofynodd y Maer i mi. "O ba le y daeth och chwir" "O Lanrwst, fy arglwydd," meddwn inau . "I ba beth y daethoch i'r dref yma?" "Myned drosodd tuag adref yr ydwyf, wedi bod yn danfon gwartheg i Sir Amwythig," ebe finau. Gofynodd yntau, "Pa fodd y bu i chwi feddwi fel hyn?" "Wel, fy arglwydd, cymeryd llymaid go helaeth a wnaethum yn y Gwyliau (Nadolig) yma rywfodd," meddwn inau. O , ai ê,"meddai yntau, -a ydyw Iesu Grist yn caniatau i chwi gymeryd mwy o ddiodydd meddwol yn y Gwyliau nag amser arall?—mi a'ch cosbat' chwi am hyn." "Nag ydyw, fy arglwydd," ebe finau - maddeuwch i mi, os gwel eich arglwyddiaeth yn dda — yr ydwyf yn un digon diniwaid a gonest." "A ewch chwi ymaith o'r dref os maddeuaf i chwi?" meddai yntau, "Af, my lord," meddwn inau, gan ddiolch iddo am ei diriondeb. Ar ol ystyried ychydig, a gweled fy mraich mewn cadach, ac wedi cael fy maeddu gymaint gyda'r paent oedd hyd fy ngwyneb, gorchymynodd ei arglwyddiaeth i'r Hedd-geidwad fy anfon allan o'r dref.

Daethum yn fy mlaen oddiwrth Gaer dan fegio . i bentref bychan, ac aethum at dŷ Offeiriad o