Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyfod o'r Amwythig arosais ychydig yn Ngwrexham, a meddwais yno a chysgais allan, ac yspeiliodd rhywun fi cyn y bore. Y noswaith ganlynol gofynais am lety i ddynes lled ieuanc oedd yn sefyll yn nws ei thy, a dywedodd nad oedd yno ddim ond un gwely - y cawn gysgu yno am swllt os dewiswn. Rhoddais inau swllt iddi gyda'r nos , gan feddwl myned yno y noswaith hono, ac aethum allan hyd y dref; ond yn mhen ychydig oriau edifarheais ei roddi iddi, ac aethum ati yn fy meddwdod i ofyn am fy swllt yn oly deuwn yno drachefn; rhoddodd hithau y swllt i mi yn ddigon ewyllysgar . Ond wrth dalu am wydraid o gwrw mewn rhyw dŷ tafarn, gwelais mai swllt drwg ydoedd! Rhedais yn fy ol i chwilio am dani; ond erbyn i mi fyned at ei thy, yr oedd wedi cloi y drws a dianc i rywle .

Daethum o Wrexham yn ol i Lanrwst, ac i lawr i ffair Llansantffraid, gan ddysgwyl cael rhyw orchwyl i'w wneud yno. A thranoeth ar ol y ffair cefais gryn lawer o ddiod gan hwn a'r llall oedd yn fy adnabod, yn nghyd a ffarmwyr y gymydogaeth . Yr oeddynt wedi clywed fy mod wedi myned drwy dref Llairwst yn noeth ryw dro yn ol, a chynygiasant roi chwartiau o gwrw i mi os gwnawn yr un peth yno. Derbyniais eu cynygiad yn llawen, tynais am danaf ac aethum allan yn noeth lymun drwy y pentref oddiwrth yr Efail at y Wheat Sheaf ac yn ol, a rhedodd Mr. Thomas Williams, Masnachydd, ar fy ol gyda chwip fawr ; ond methodd a fy nal.

Aethum o Lansantffraid i Ddinbych, ac oddiyno i Ruthyn, lle y dygwyddais daraw wrth ddynes ddrwg, yr hon a ddaeth i fegio at yr un tŷ a mi.