Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelwn bapyr ar ymyl rhyw dwll oedd yn y pared ac ysgrifen arno; aethum ag ef i'w ddangos i ryw un, yr hwn a ddywedodd wrthyf mai llythyr ysgar rhyngwyf i a fy ngwraig, Beti Morris, ydoedd. Holais y cymydogion i edrych a wyddent hwy rywbeth am dani, a dywedasant ei bod wedi myned o'r dref er's pedwar o'r gloch y bore o'r blaen. Yr oeddwn bron a gwallgofi erbyn hyn ; ac aethum ar ei hol dranoeth i chwilio am dani. A phan oeddwn wrth Gaerynarfon, cyfarfyddais a'r Parch. Thomas Owen, Llangefni, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn a ofynodd i mi sut yr oeddwn, a dywedais inau ei bod yn ddyryslyd iawn arnaffi, "Beth sydd , Thomas Williams " meddai yntau . WBeti Morris, yr hon a briodais oddiar eich plwyf chwi acw, sydd wedi dianc oddiwrthyf; a'r dodrefn a fy holl arian hefo hi," meddwn inau . "Ac yr oedd yn rhyfedd ganddo glywed . Rhodd wch gyngor i mi beth i'w wneud yn fy nghyfyngder, Thomas Owen bach," meddwn wrtho. "Wel, os cymerwch fy nghyngor i," meddai yntau. "Gwyl iwch, a gweddiwch yrwan fwy nag erioed, onide y bydd y diafol yn bur brysur o'ch cwmpas chwi drwy y brofedigaeth yma. Daliwch yn ddirwestwr drwy y cwbl - peidwch ag anmhwyllo a digio wrthi, ond yn bytrach gweddiwch drosti." "Gweddio dros ben sopen ddrwg fel yna?" meddwn inau. "Ie, Thomas bach, mae yr ysgrythyrau santaidd yn gorchymyn i ni weddio drosein gilydd, a charu ein gelynion," meddai yntau. Gwrandewais arno, a gwnaethum yn ol ei gyngor. Wedi methu cael hyd iddi yn Nghaerynarfon, aethum drosodd i Sir Fon, ac i Gaergybi. Holais am lety noswaith yno mewn tỳ wrth làn y môr, a dywedodd gwraig y tŷ