Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dyfod at dy wr?" meddwn inau. "Yr oedd arnaf fi eich ofn, yn wir," meddai hithau. "Yr wyf yu dywedyd i ti fod yn rhaid i ti aros yma fel dynes, neu fyned allan—fi piau bob peth sydd yma, meddwn wrthi "Wel, Thomas Williams, a wnewch chwi actio fel gwr?" meddai hithau, gan roddi ei llaw am fy ngwddf. "Actio fel gwr— beth welaist ti yn amgen ynwyf erioed?" meddwn inau wrthi yn ffyrnig. Wedi ffraeo fel hyn am ychydig daethom yn ffrindiau, ac arosasom gyda'n gilydd am bedwar diwrnod; ac aethom i dy Owen fy mrawd i wneud rhyw fath o amodau heddwch o hyny allan. Aethum i allan gyda'm llyfrau at Sir Gaerynarfon, a dywedodd hithau y deuai ar fy ol gyda dodrefn y tŷ dranoeth, gael i ni fyned i fyw i Fangor fel o'r blaen. Ac fel yna ymadawsom yn heddychol; ond ni ddaeth byth ar fy ol i Fangor, a chyngorwyd fi i'w gadael yn llonydd.

Ryw dro yn mhen hir a hwyr ar ol hyn , gwelais hi mewn rhyw dŷ yn Nghaerynarfon , a dywedais rywbeth wrthi,—chwerthodd am fy mhen, nes enyn fy nhymer wyllt, a thafodais hi yn lled arw , gan ddanod iddi yr annghyfiawnder a wnaethai â mi, &c. Aeth hithau at yr Heddynad i geisio gwarrant i fy nal am ei "abusio," a chymerwyd fi o flaen yr Ynad, a daeth hithau yno i dyngu ei hoedl arnaf. Ac felly bu raid imi dalu costan y warrant a'r twrne, trwy iddi bi ddweyd anwiredd arnaf heb un achos yn y byd. Gwelais hi unwaith, ar ol hyn, ond ni wnaethum un sylw o honi. Wedi bod am yspaid o amser yn Mangor a'r cymydogaethau, daethum i fyw i Lanrwst, lle yr ydwyf hyd yn hyn mewn ty bychan.

Yma yr wyf yn mwynhau y llonyddwch i