Aur sydd yn gwneyd priodasau rif y dail:
Harddwch wnant ar hagr wynebpryd,
A synwyr llawn i'r ymenydd gwag:
Gwnant yr annoeth, dwl, yn ddoethaf ddyn,
Rho'nt y flaenoriaeth llawn o fewn y byd.
Chwi farnwyr gwych, ardderchog ddewrion byd,
A gedwch neb o'ch ffyddlon weision
Rhag marwol saeth yr angau llym?
Angau eiff yn hyf i fewn
I'r palasau gwych at foneddigion byd,
Fel i fwthyn gwael y beggar gwan,
A dwg y rhai'n a'u lliain main,
A'u porphor drud, a'u gwisgoedd sidan gwych,
Yn garcharorion caeth i'r nychlyd fedd.
Pa sawl un coronog, gwych, a thywysog uchel waed?
Pa sawl cyfoethog iawn a fwriodd ef i'r llwch?
Pa nifer o areithwyr talentog,
Y gwych ddadleuwyr ffraeth, a lwyr ddistawodd ef?
Enaid, dysg wersi doethineb
Gan yr areithiwr[1] mud,
Sy'n llefain wrthyt o'r llwch: a llefain mewn dystawrwydd maent,
Oll gyda sain llithoedd o dragwyddoldeb i ni:
Annogant fi i gyfrif fy nyddiau;
A rhybuddiant fi o fy ymddattodiad agosaol:
Mynegant i mi mewn iaith
Ddilafar, mai ymdeithydd ydwyf yn y byd,
Ac alltud fel fy holl dadau.'
Wedi i ni, ychydig yn ol, hysbysu marwolaeth Mr. Jones, a'r effeithiau o hyny, gadawsom yr hanes am ychydig er mwyn rhoddi lle i'r farwnad wir effeithiol hon. Dychwelwn yn awr yn y lle hwn eilwaith at yr hanes.
Nid ydym yn gallu penderfynu i sicrwydd a oedd blaenor arall yn y lle, yn yr amser y bu Mr. Jones farw: casglu yr ydym oddiwrth yr amgylchiadau, nad oedd.
Yr ydym yn gwybod i sicrwydd am wr ieuangc o Adwy'r Clawdd, hwn oddeutu yr amser hwnw a aeth i Wrecsam, yr hwn hefyd a
- ↑ yn lle 'areithiwr' darllener areithwyr (gw. tud. 100)