wnaed yn flaenor yn y lle. Yn ol pob peth a allwn gasglu oddiwrth hanes pethau, mae yn ymddangos i ni, mai efe oedd y blaenor cyntaf ar ol Mr. Jones. Bu hyn yn radd o sirioldeb i'r achos am ysbaid, a chynnyrchwyd yn y cyfeillion obeithion am bethau gwell yn y dyfodol. Yr oedd y gwr ieuangc hwnw, yn ol pob peth ag oedd yn ymddangos ar y pryd, yn ddyn duwiol a difrifol, yn gristion profiadol a gweithgar, yn berchen hefyd tipyn o dda'r byd hwn, ac felly yn debyg o fod yn llawer o swccwr i'r achos yn ei amgylchiadau allanol; yn fyr, yr oedd ynddo lawer o bethau ag oeddynt yn ei gymhwyso i flaenori yn y lle.
Cyn pen hir, ar ol ymsefydlu o hono yn y lle, fe'i temtiwyd ef fel Dafydd, ac fe'i hudwyd ef fel yntau, i gyflawni anwiredd ysgeler. Yr oedd hyn yn ddyrnod trwm i'r achos, yr hwn eto nid oedd ond eiddil a gwan. Bu y tro galarus hwn yn achlysur i elynion crefydd gablu, gwawdio, ac erlid yn y modd mwyaf haerllug. Yr oedd cryn lawer mwy o wahaniaeth y pryd hwnw rhwng y wir eglwys a'r byd annuwiol nag sydd yn awr. Yr oedd y naill yn fwy hardd a phêraroglaidd yn rhinwedd ei grasau, a'r llall yn fwy amlwg yn ei lygredigaeth a'i ddrygsawredd. Yr oedd y tro galarus hwn, nid fel rhoddi tom ar dom, ond fel rhoddi tom ar wely'r perlysiau, yr hyn a barai i'r aflendid ymddangos yn llawer ffieiddiach ac atgasach. Yr oedd yr ychydig gyfeillion yn y lle ar y pryd yn teimlo cymmaint yn herwydd y.gwarth hwn a ddaeth arnynt, nes peri iddynt osod llwch megys ar eu penau, a gwisgo sach-liain a lludw. Ar ol i'r eglwys ymlanhau oddiwrth y bryntni hwnw yn eu plith, sef trwy fwrw'r troseddwr i satan, i ddinystr y cnawd, fe drefnodd y Brenin Mawr, a hyny yn fuan, iddynt flodeuo a pherarogli lawn cymmaint ag o'r blaen.
Teg, ni dybygem, ydyw i ni hysbysu, i'r Duw trugarog ymweled drachefn â'r plentyn drwg hwnw yn ngoruchwyliaethau ei Ysbryd, a hyny trwy fflangellau a ffonodiau trymion; oblegid archollwyd ei ysbryd, a drylliwyd ei esgyrn. Taflwyd ef i ddyfnder mawr yn herwydd ei bechod, a'r gwarth a dynodd ar grefydd. Wedi cael ei anadl ato, llefodd oddiyno; cyfodwyd ef hefyd; maddeuwyd ei