bechod, iachawyd ei esgyrn, a rhoddwyd iddo 'drachefn,' fel Dafydd, 'orfoledd yr iachawdwriaeth.' Adferwyd y brawd hwn i'w swydd yn lled fuan, mewn eglwys arall, a bu yn flaenor eglwysig am uwchlaw triugain[1] mlynedd. Yr oedd y goruchwyliaethau llymion a gafodd, a'r triniaethau a deimlodd yn ei ysbryd, mewn canlyniad i'w gwymp, ac ar ol ei adferiad, wedi ei gymhwyso yn rhyfedd i ymddiddam â, rhybuddio, cynghori, cyfarwyddo a chysuro y rhai y cyfarfyddai â hwy mewn profedigaethau. Yr oedd ei oes ar ei hyd, ar ol ei gwymp, yn oes o brofedigaethau, siomedigaethau, colledion mewn masnach, dyryswch mewn amgylchiadau, afiechyd a thlodi at ei ddiwedd.
Dywedodd ddegau o weithiau wrth hoff gyfaill iddo, a'r dagrau ar ei ruddiau, ei fod, fel Dafydd, wedi tynu'r cleddyf i'w dŷ, ac mai cyfiawn iawn oedd goruchwyliaethau yr Arglwydd tuag ato, er eu bod yn chwerwon. Bu farw rhwng 70 a 80 oed, yn mwynhau gobaith, hyder, cysur, a thangnefedd yr efengyl, a hyny yn nghanol iselder a thlodi mawr.
Dylasem ddyweyd gair yn helaethach am Mr. Jones, y blaenor cyntaf yn Ngwrecsam, ond gwnawn hyny yma eto. Yr oedd Mr. Jones nid yn unig yn ddyn am wneuthur lles yn ei gartref, ond hefyd am lesäu ei genedl yn gyffredinol. Efe oedd y prif offeryn i ddwyn Mr. Evans i Adwy'r Clawdd, i fod yn ysgolfeistr. Mr. Jones a anfonodd gyntaf i'w gyrchu o Lanrwst i Wrecsam, er mwyn cael ei weled ac ymddyddan ag ef. Efe hefyd a'i hanfonodd at foneddwr o'r enw Robert Burton, Yswain, Minera Hall, canys yr oedd Mr. Burton yn cymmeryd rhyw gymmaint o ddyddordeb yn addysgu'r gymmydogaeth. Fe ddywedodd Mr. Evans ei hunan wrth yr ysgrifenydd, iddo weled yn y cyfamser, yn y parlwr yn Minera Hall, un peth bychan a dynodd ato ei sylw yn neillduol, sef gweled y foneddiges barchus, Meistres Burton, yn troi'r droell ac yn nyddu llin. Ar ol i Mr. Evans gael rhyw gymmaint o ymddyddan â Mr. Burton, anfonwyd ef gan Mr. Jones i'r Bala, at Mr. Charles, i gael ymddyddan ag yntau hefyd. Wedi bod am beth amser yn nghyfeillach Mr. Charles, dychwelodd i Wrecsam, ac yn fuan ar ol hyn
- ↑ yn lle 'triugain' darllener deugain (gw. tud. 100)