Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymsefydlodd yn Adwy'r Clawdd fel ysgolfeistr. Mae Mr. Evans yn y cymmydogaethau hyn er's yn agos i 66 o flynyddoedd bellach. Gwr ieuangc oddeutu 17 oed oedd efe pan y daeth gyntaf i'r gymmydogaeth.

Byddai Mr. Jones yn gwneuthur ymdrech i wneyd argraff ar feddyliau'r bobl, ei fod yn llawer henach nag ydoedd, a hyny yn unig er mwyn iddo fod yn fwy effeithiol a dylanwadol. Yr oedd ymddangosiad, dysg, penderfyniad meddwl, dewrder, a dylanwad Mr. Evans yn gyfryw, pan nad oedd ond 17 oed, fel ag y gallasai llawer un ei gymmeryd am un a fuasai yn 25 mlwydd oed. Fe fu Mr. Evans fel athraw, ac fel gwr cyhoeddus, mewn llawer ystyr, yn fwy effeithiol, bendithiol a dylanwadol yn y cylch yr ydoedd yn troi ynddo, na neb fu yno o'i flaen, nac ar ei ol chwaith. Mae ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad hon i'w briodoli, yn benaf, i'r awyddfryd angherddol oedd yn Mr. Jones am lesâu plant ei gydgenedl yn y dref a'r wlad.

Ar ol adgyweirio yn Mhentrefelin yr hen adeiladau y soniasom am danynt o'r blaen, a'u gwneuthur yn rhyw fath o addoldy, fe wnaed Gwrecsam, Adwy'r Clawdd, a Rhosllanerchrugog, yn daith sabbothol; ac felly y bu am flynyddau lawer. Prin yr oedd yr ysgolion sabbothol wedi eu sefydlu ar hyny o bryd; o'r hyn lleiaf, nid oeddynt wedi gwreiddio ac ymledu, na dyfod mor gyffredinol ag ydynt yn awr. Byddai llawer o'r rhai fyddai yn gwrando pregeth y boreu yn y blynyddoedd hyny, yn dilyn y pregethwr ar hyd y sabboth. Dyddorol iawn gan yr ysgrifenydd, pan yn Gristion[1] bychan, fyddai dilyn y fintai, a gwrando arnynt yn adrodd y pregethau, eu syniadau, a'u profiadau. Yr ydym yn barnu, yn ostyngedig, y byddai crefyddwyr y dyddiau hyny yn rhagori llawer ar rai y blynyddoedd hyn, yn y peth hwnw. Yr oedd un hen wraig, o Adwy'r Clawdd, yn arfer teithio fel hyn i'r oedfaon o'r bron yn ddidor. Byddai yr hen frawd a'r blaenor, John Griffith, yn dyweyd yn ddigrifol am dani,—'Mae holl grefydd Hannah Llwyd yn ei thraed.' Er fod llawer o bethau canmoladwy yn nghrefyddwyr y blynyddoedd hyny, eto nid oeddynt

  1. yn lle 'cristion' darllener crwtyn (gw. tud 100)