Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dr. Edwards, o'r Bala, am ei Ramadeg, "ei fod yn rhagori ar yr un sydd genym yn yr iaith Gymraeg, yn neillduol felly o ran ei athroniaeth." Fel Beirniad cydnabyddir ef fel un gwir gymhwys o ran craffder a manylrwydd. Dywed G. Hiraethog am ei gymhwysder hyd yn nod i dafoli y Beirdd fel hyn, "Hwyrach y cyfyd ysfa ar rywun arall mwy cyfarwydd (na Hiraethog ei hun) i ad-daflenu y beirdd hyn. Beth a fyddai i Hugh Tegai droi ei law at y gorchwyl? Meddyliem fod ei gymhwysderau ef at y gwaith hwn yn rhagorol." Gadawn Tegai yn yr ystyr uchod, a gwuawn ychydig nodiadau ar hanes ei fywyd. Mab ydoedd i'r diweddar Thomas Hughes, Tre’rgarth, Llandegai. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1805. Ychydig, os dim moddion addysg a gafodd yn moreu oes. Pan у daeth i faintioli i allu gweithio, aeth i chwarel Cae-braich-y-cafn i weithio fel chwarelwr. Ond yr oedd pan yn ieuanc yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, a daeth trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd yn feddianol ar gryn lawer o wybodaeth. Codwyd ef i bregethu pan yn lled ieuanc gyda'r Wesleyaid yn Tre’rgarth. Bu yn pregethu gyda hwy fel un Cynorthwyol am amryw flynyddau. Symudodd ei gartref, ac ymunodd gyda'r Annibynwyr. Ni bu yn hir cyn cael galwad i gymeryd gofal yr eglwys Annibynol yn Llanrug. Symudodd oddiyno i Bwllheli, ac o Bwllheli i Manchester, ac o Manchester i Aberdare. Bu yn y lle hwn am amryw flynyddau, ac yno y bu farw, yn y flwyddyn 1864, yn 59 mlwydd oed.

JOHN THOMAS (Ogwen)

Mab yw Ogwen i'r diweddar Richard Thomas, Penisa'r nant, Llanllechid, yr hwn a fu yn Oruchwyliwr cyfrifol yn chwarel Cae-braich-y-cafn am lawer o flynyddoedd. Ganwyd Ogwen yn y flwyddyn 1811. Cydnabyddir