Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan bawb ei fod yn llenor ac yn fardd dysgedig. Ystyrid ef yn meddu awen lednais, chwaeth goeth, teimlad tyner, ac yn feddyliwr clws. Mae wedi cyfansoddi amryw englynion gorchestol, yn nghyda lluaws o benillion prydferth ac awenyddol ar wahanol destynau; ac mae rhai ohonynt yn gyfansoddiadau buddugol. Pe buasai Ogwen wedi ymroi ati o ddifrif, nid oes un amheuaeth na fuasai wedi enill iddo ei hun safle uchel yn mysg y Beirdd Cymreig.

WILLIAM R. WILLIAMS, PENYGROES

Cawn i Mr. Williams gael ei eni yn Tre’rgarth, yn y flwyddyn 1815. Ychydig o addysg foreuol a gafodd. Yr ydym yn cael mai y gwŷr y bu yn derbyn gwersi a chyfarwyddiadau mewn barddoniaeth ganddynt oedd H. Tegai a Chlwydfardd—eithaf dau athraw. Ystyrir W. R. Williams yn fardd destlus, ac yn meddu ar chwaeth dda, a barn ragorol. Cyfansoddodd lawer eisioes, yn awdlau, cywyddau, englynion, a rhydd-ganeuon, o ba rai y bu llawer yn fuddugol mewn gwahanol Gystadleuaethau. Cyfansoddodd amryw draethodau hefyd, amryw o ba rai a ystyriwyd yn deilwng o'r prif wobrau. Dyn llawn, ac yn meddu ar wybodaeth gyffredinol yn mhell tuhwnt i'r cyffredin, yw W. R. Williams.

Wrth wneyd rhyw nodiadau o'r natur yma, nid ydym heb ystyried ein hunain yn sangu ar ryw ddaear dyner iawn; ond gyda golwg ar y sylwadau uchod, nid ydym yn ofni gair oddiwrth neb, ein bod yn myned yn erbyn barn un dyn sydd yn adnabod Williams.

Cyn terfynu hyn o nodiadau, dylem grybwyll hyny, fod Mr. Williams wedi ei ddyrchafu i fod yn Oruchwyl iwr yn y Gloddfa Ganol, Ffestiniog, lle y mae yn derbyn cymeradwyaeth mawr gan y gweithwyr.