Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gysylltu y dyffryn a'r porthladd hwn gan fod yma ddeugain milldir o baith diddwfr cydrhyngddynt. Yr oedd rhai am gael agerddloug fechan i redeg rhwng geneu yr afon a Porth Madryn i lwytho a dadlwytho y llong fawr yno, ond deuwyd i weled wrth edrych yn fanylach i'r mater y byddai yr agerddlong hon yn rhy gostus. Yr oedd ereill yn selog iawn dros gael ffordd haiarn o'r dyffryn i Porth Madryn, ond neb yn cael gweledigaeth eglur pa fod i iw chael, am nad oedd yn y sefydliad ddigon o gyfalaf i wneud yr anturiaeth. Barnai ereill mai ffurfio cwmni cydweithiol fuasai y goreu—cwmni i fasnachu, llogi, neu brynu llongau fel ag i fod yn hollol anibynol ar y masnachwyr. Beth bynag, yr oedd yma dri o ddynion yn y sefydliad yn credu mewn cael ffordd haiarn, sef Mri Lewis Jones, Thomas Davies, Aberystwyth; ac Edward Williams, o Mostyn, Gogledd Cymru. Mae y darllenydd yn hen gyfarwydd bellach ag enw Mr. Jones, ond mae yn angenrheidiol i mi ddweyd gair am y ddau foneddwr arall, Adeiadydd o Aberystwyth yw Mr. Thomas Davies, yr hwn oedd wedi bod er's blynyddoedd cyn ei ddyfodiad i'r Wladfa, yn gredwr ac yn bleidiwr y mudiad gwladfaol. Dyn ieuanc o ardal Mostyn oedd Mr. E. Williams, mab i Mr. William Williams o'r un lle, yr hwn a ddaethai allan efe a'i deulu yn y flwyddyn 1880 nen 1881. Yr oedd yn ddyn o feddianau pur helaeth, y rhai a enillasai yn y gwaith aur yn British Columbia. Yr oedd y mab, Mr. E. Williams, wedi cael ei ddwyn i fyny yn beirianydd. Trwy fod Mr. Davies yn ddyn ymarferol mewn gwaith, a Mr. Williams, yn beirianydd, a Mr. Jones yn llawn o ysbryd anturiaethus, aeth y tri ati i wneud rhyw fras lefeliad o'r dyffryn i Porth Madryn er cael rhyw amcan beth fuasai y gost i'w gwneud. Wedi hyn aeth y boneddwyr hyn ati o ddifrif i osod y mater ger bron y sefydlwyr ac i egluro yr anturiaeth i'r dyben o gael cydsyniad a chydweithrediad y bobl yn gyffredinol, ond ryw fodd, nid oeddynt eto yn aeddfed i'r peth, ac felly ni chawsant ond ychydig o gefnogaeth. Ond nid dyn oedd Mr. Lewis Jones i roi i fyny ar hyn, ac felly aeth i Buenos Ayres at y Llywodraeth Archentaidd, a roddodd y mater o'u blaen, a gofynodd am ganiatad i'w gwneud ac hefyd gofynodd am ddarn o dir y paith o bob tu iddi yn rhodd gan y Llywodraeth fel ag i fod yn gefnogaeth