Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y cychwyu, mewn rhan o herwydd diffyg yn yr arolygiaeth ac mewn rhan hefyd o herwydd yr anghyfleusdra yn nglyn a chael dwfr ac ymborth yn gyfleus i'r gweithwyr. Yn niwedd y flwyddyn 1887 yr oeddid wedi gorphen y ffordd haiarn fel ag i redeg wageni arni, ac yn gynar yn 1888 yr oedd pob peth yn orphenedig, ac yr oeddynt yn prysur gludo y gwenith i Porth Madryn. Yr oeddid hefyd wedi gwneud yn Mhorth Madryn math o orsaf tuag at lwytho a dadlwytho llongau. Yr oedd llawer o wenith wedi ei ystorio y flwyddyn cynt i ddysgwyl y ffordd i fod yn barod er sicrhau gwaith iddi ar unwaith. Wedi ei chael yn barod, penodwyd pris y cario yr hyn oedd un bunt y dynell or orsaf yn y dyffryn i'r long ya Mhorth Madryn, ac erbyn talu pris y llong wedy'n am ei gario i Buenos Aires, daethom i ddechreu meddwl, a gweled nad oedd y ffordd haiarn yn fêl i gyd. Mae yn ddiameu nad oedd y pris uchel hwn ddim yn ormod er mwyn gwneud i'r ffordd dalu llogau yr arian a wariwyd arni, ond yr oedd yn rhy uchel i ateb ffordd fer o ddeugain milldir, ac yn rhy uchel hefyd fel ag i alluogi y tyddynwyr gael mantais ar eu gwenith. Costiodd y dernyn ffordd hon oddeutu £150,000, yr hyn oedd gymaint arall, a dweyd y lleiaf, ac a ddylasai, canys yr oedd y tir yn gydmarol wastad yr holl ffordd oddigerth ychydig rediad yn y ddau ben iddi, ac heb na phont na thynel. Achoswyd y gost fawr hon y rhan fwyaf trwy ryw ddiffyg yn yr arolygiaeth a hefyd mewn rhan o herwydd gweithwyr ac arfau anmbriodol. Cawn ddychwelyd eto yn mhellach yn mlaen i sylwi ar y modd y gweithiwyd ac y cariwyd yn mlaen y ffordd hon.

Cwmni Masnachol y Camwy.—Yr un adeg ag yr oedd Mr. Lewis Jones yn brysur gyda chael cwmni i wneud ffordd haiarn, yr oedd yma hefyd nifer fechan yn rhoi eu penau yn nghyd i dreio cael math o gwmni cydweithiol yn ein mysg er gwneud i ffwrdd os oedd modd ar cwlwm masnachol oedd yn y lle. Dechreuwyd y cwmni hwn gan nifer fechan o dyddynwyr anturiaethus yn mhentref, neu fel y cawn ei alw o hyn allan—yn nhre y Gaiman. Y rhai a symudodd gyntaf yn yr achos hwn oeddynt y Mri. D. Ď. Roberts, J. C. Evans, gweinidog, a W. Williams, Mostyn, ac wedi iddynt gael ychydig gydymddyddan penderfynaaant alw sylw nifer fechan at y