Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr o dir i'r De o Buenos Ayres , a elwid Curumalan , neu Sausi Corte. Hysbysiadai y boneddwr hwn lawer yn nghylch y lle, ac addawai freintiau a manteision mawrion i bwy bynag a gymerai ran neu ranau o'r tir hwn ar ei amodau ef. Daeth y son am y lle hwn i glustiau y Gwladfawyr anfoddog ar y Camwy, a thybient fod ac ymaith a hwy- rhai yn gwerthu eu tiroedd am y nesaf peth i ddim, ac ereill yn fwy gofalus, yn eu gadael, ond yn cadw meddiant ynddynt. Ymadawodd y pryd hwn o wyth i ddeg o deuluoedd; ond er na pherthyn i amcan yr hanes hwn ymhelaethu ar Curumalan, eto gallwn ddweyd mai aflwyddianus ar y cyfan fu y sefydliad hwn hyd yn hyn, ac mai rhai a fu yn ddigon anlwcus i werthu eu tiroedd ar y Camwy, a myned yno, wedi dyfod yn ol er's blynyddoedd, yn nghydag ereill oedd wedi bod mor lwcus a chadw eu tiroedd ar eu henw. Gwerthwyd tyddynod ar y Camwy y pryd hwnw am ychydig ugeiniau o bunoedd, ac yn mhen ychydig flynyddoedd, yr oedd eu prynwyr yn eu hail werthu am ganoedd o bunau, ac y mae ambell i un o honynt erbyn heddyw yn werth £1,500, neu ddwy fil o bunau. Y peth pwysicaf yn nglyn a dadblygiad y sefydliad, yn ddiamheu, fu y gyfundrefn ddifriol trwy y Camlesi, ac feallai y nesaf at hyny y cwmni masnachol, a'r ffordd haiarn. Cododd y tiroedd y blynyddoedd hyn tuag wyth cant y cant yn y man lleiaf. Fe gyhoeddwyd gan gwmni y ffordd haiarn fwy nag unwaith mai y ffordd haiarn oedd wedi codi pris y tyddynod; ond nid oedd hyny yn gywir, am y deuwyd i weled yn fuan nad oedd y ffordd haiarn mor rhated a'r llongau oedd yn myned allan o'r afon. Teg yw dweyd fod y ffordd haiarn wedi hyrwyddo peth yn nglyn a masnach, trwy leihau cludiad y tyddynwyr pellenig, ac hefyd alluogi llongau i lwytho a dadlwytho yn Mhorth Madryn, ac felly ysgoi yr oediad yr ydys yn agored iddo yn ngenau yr afon. Prynodd cwmni y ffordd haiarn hefyd agerlong i redeg rhwng Porth Madryn a Buenos Ayres, a bu hono yn hwylusdod mawr i ni fel moddion cymundeb; ond o ddiffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth, gorfu arnynt i wneud i ffwrdd â hi, am nad oedd yn talu wrth ddibynu yn unig ar drafnidiaeth y lle. Credwn i'r llywodraeth Archentaidd fod